Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyflwyno cynlluniau i addasu eisteddle Wrexham Lager ar y Cae Ras, sy’n cynnwys campfa newydd.

Mae’r clwb yn ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer eisteddle newydd y Kop ac yn ogystal, mae cais arall wedi cael ei gyflwyno er mwyn gwella cyfleusterau rhannau eraill o’r stadiwm.

Mewn dogfennau sydd wedi mynd gyda’r cais at Gyngor Wrecsam, mae’r clwb yn gobeithio adeiladu allanfa dân newydd yn ogystal â’r gampfa, gosod ffenestri newydd yn y swyddfa docynnau a chodi rampiau allanol.

Mewn datganiad dylunio a mynediad sydd wedi’i gynnwys gan AFL Architects ar ran y clwb, mae’r newidiadau wedi cael eu nodi gyda’r amcanion canlynol:

  • Bydd gwella ansawdd gwasanaethau’r adeilad yn gwasanaethu’r gymuned leol, drwy ganolbwyntio ar wneud y cyfleuster yn hygyrch i bobol ag anableddau, yn ogystal ag uwchraddio gofodau presennol drwy ailddylunio rhai ohonyn nhw.
  • Bydd cynnwys gweithgareddau eraill, megis y gampfa, yn cynnig manteision economaidd yn y tymor byr a’r tymor hir drwy greu swyddi i bobol sy’n cael eu cyflogi i wneud y swyddi newydd sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau newydd, yn ogystal â hybu’r clwb a’r dref.
  • Addasu rhai gofodau, megis y swyddfa docynnau a siop y clwb, gyda’r bwriad o wella’r safle masnachol er mwyn gwerthu tocynnau a nwyddau.

Penderfyniad maes o law

“Cafodd y cynnig ar gyfer Gwelliannau Wrexham Lager ei ddylanwadu gan ofyniad y clwb i wella ansawdd gwasanaethau’r adeilad fel rhan o adfywiad Porth Wrecsam, yn ogystal â mewnbwn a safbwyntiau gan bartïon eraill,” meddai’r datganiad.

“Am y rhesymau sydd wedi’u hamlinellu uchod, y casgliad felly yw fod modd cefnogi’r addasiadau sydd wedi’u cynnig er mwyn cymeradwyo darpariaeth y gampfa newydd ac addasiadau eraill yn yr adroddiad hwn.”

Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Wrecsam yn gwneud penderfyniad ynghylch cynlluniau’r clwb yn y dyfodol.