Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau y bydd eu hamddiffynnwr Joel Latibeaudiere allan am o leiaf dri mis ar ôl anafu ei ysgwydd.
Fe ddigwyddodd yr anaf yn ystod y gêm yn erbyn Millwall yn Stadiwm Swansea.com nos Fawrth (Awst 16).
“Dw i’n teimlo mor drist dros Joel,” meddai’r rheolwr Russell Martin.
“Mae e’n un o’r chwaraewyr mwyaf proffesiynol, un o’r bois gorau, ac mae ei feddylfryd a’i ffocws bob dydd yn ychwanegu gwerth.
“Bydd e allan am dri i chwe mis, gobeithio tri ond fe gawn ni ddiweddariad o’r sgan yr wythnos nesaf.
“Mae’n anodd i’w dderbyn, mae e wedi dychwelyd mewn cyflwr da, ac mae ei berfformiadau y tymor hwn – mewn unrhyw safle – wedi bod yn anhygoel.”
Mae’n dweud bod gweddill y garfan yn holliach, a’i fod e’n cydweithio â’r adran feddygol i sicrhau bod y garfan yn y cyflwr gorau posib, ond mae’r ergyd ddiweddaraf yn ei gwneud hi’n debygol y bydd angen amddiffynnwr arall pan fydd y ffenest drosglwyddo’n agor ym mis Ionawr.