Bydd tîm criced Morgannwg yn ceisio dod â rhediad di-guro Hampshire i ben yng Nghwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd, yng Nghastell-nedd heddiw (dydd Gwener, Awst 19).
Mae Morgannwg eisoes allan o’r gystadleuaeth ar ôl iddyn nhw golli o naw wiced ar y Gnoll yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn gynharach yr wythnos hon.
Un newid sydd i’r garfan, wrth i’r capten David Lloyd gael ei hepgor am y gemau sy’n weddill, wrth i’r sir baratoi ar gyfer pedair gêm ola’r Bencampwriaeth, gan fod ganddyn nhw obaith o ennill dyrchafiad yn y gystadleuaeth pedwar diwrnod o hyd.
Hon hefyd fydd gêm olaf Colin Ingram cyn iddo adael am y Caribbean Premier League, ac yntau wedi sgorio 264 o rediadau ar gyfartaledd o 52 yng Nghwpan Royal London, gan gynnwys sgôr uchaf erioed o 155.
Mae e hefyd wedi sgorio 596 o rediadau yn y Bencampwriaeth, gan gynnwys tri chanred yn ei bum gêm eleni.
Mae Morgannwg yn seithfed yng Nghwpan Royal London gyda dwy fuddugoliaeth allan o chwech, ac felly mae’r pencampwyr allan o’r gystadleuaeth ar ôl tymor cystal y llynedd.
Mae Hampshire wedi ennill eu pum gêm, a byddan nhw’n sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf pe baen nhw’n ennill yng Nghymru.
Gemau’r gorffennol
Dyma’r tro cyntaf erioed i Hampshire ymweld â’r Gnoll mewn gêm Restr A, a hwythau wedi chwarae yng Nghaerdydd, Abertawe a Glyn Ebwy yn y gorffennol.
Maen nhw wedi chwarae yn y Gnoll yn y Bencampwriaeth, gan ennill o fatiad a dau rediad yn 1958, a chael gemau cyfartal yn 1969 a 1972.
Roedden nhw’n fuddugol yn 2007 yn Abertawe, yn 2008 a 2012 yng Nghaerdydd, ac yn Abertawe yn 2016 a 2018, gyda’r ornest yng Nghaerdydd yn 2015 yn dod i ben heb ganlyniad.
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, C Cooke, J Cooke, T Cullen, A Gorvin, C Ingram, S Northeast, B Root, A Salter, P Sisodiya, R Smith, J Weighell
Carfan Hampshire: N Gubbins (capten), T Albert, K Barker, B Brown, J Campbell, S Currie, A Donald, I Holland, F Middleton, F Organ, T Prest, J Turner