Bydd modd dilyn y tymor Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ar S4C, gyda gemau byw o’r penwythnos cyntaf hyd at y diwedd eleni.
Bydd Rygbi Indigo Prem yn dangos gemau bob wythnos yn ystod y tymor, ar-lein ac ar deledu.
Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno Rygbi Indigo Prem, ac mi fydd hi’n cael cwmni sawl wyneb rygbi cyfarwydd yn ystod y tymor.
Bydd y gêm gyntaf i’w gweld ar S4C ar nos Sadwrn, Medi 3, wrth i Bontypridd herio pencampwyr 2021/22, Caerdydd, ar Heol Sardis, gyda’r gic gyntaf am 5.30yh.
Ar nos Iau, Medi 8, bydd y gêm rhwng Abertawe ac Aberafan yn cael ei darlledu ar-lein ar S4C Clic, tudalen YouTube S4C a thudalen Facebook S4C Chwaraeon, am 7.30yh.
Bydd Casnewydd yn erbyn Caerdydd yn cael ei dangos ar-lein ar nos Iau, Medi 22 am 7.30yh.
Ar nos Iau, Medi 29, bydd y gêm rhwng Pen-y-bont a Merthyr (7.30yh) yn cael ei dangos ar-lein, yn ogystal â’r gêm rhwng Glyn Ebwy a Llanymddyfri ar nos Iau, Hydref 6 (7.30yh).
‘Teimlo fel llechen lân’
“Mae’n dymor newydd yn yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ac mae’n teimlo fel llechen lân ar ôl sgil effeithiau’r pandemig dros y tymhorau diwethaf,” meddai Lauren Jenkins.
“Mae’r clybiau wedi cryfhau dros yr haf, a gyda chwaraewyr fel Adam Warren, Dan Baker, Josh Lewis a Tavis Knoyle yn ymuno, bydd y safon yn sicr o godi.
“Os, fel gwelsom y llynedd, mae lefel yr adloniant yn uchel dros ben gyda gelyniaethau mawr rhwng clybiau hanesyddol a gemau llawn ceisiau, dyna beth mae rygbi yng Nghymru i gyd amdano.”
‘Pinacl rygbi clybiau yng Nghymru’
“Yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo yw pinacl rygbi clybiau yng Nghymru ac mae’n sylfaen hollbwysig i’r gamp gyfan,” meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C.
“Mae S4C wedi ymrwymo i ddangos chwaraeon ar draws ein holl blatfformau ac rydym yn edrych ymlaen at ddangos mwy o gemau gwych ar nos Iau.”
“Roedd darllediadau o gemau’r tymor diwethaf yn llwyddiannus ac yn beth positif iawn i’r chwaraewyr, hyfforddwyr, swyddogion y gêm, cefnogwyr a’r holl glybiau – ac mi fydd o’n stori debyg eleni, heb os,” meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru.
“Mae cael y fath sylw ar draws sawl platfform yn fuddiol iawn i’r Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ac i’r gamp yn gyffredinol.”