Mae Ryan Reynolds yn dweud bod pêl-droed wedi dod yn “obsesiwn” ers iddo ddod yn gyd-gadeirydd Wrecsam.

Daeth yr actor Hollywood a’i gyd-actor Rob McElhenney yn berchnogion ar y clwb fis Chwefror y llynedd.

Daw hyn ar drothwy rhaglen ddogfen – Welcome to Wrexham – sy’n dilyn perchnogaeth y ddau ac sy’n dechrau’r wythnos nesaf.

“Mae’n gas gen i ddweud hynny ond mae pêl-droed wedi dod yn gymaint o obsesiwn, nes fy mod i’n casáu’r gamp,” meddai.

“Hoffwn i pe na bai’n meddiannu fy meddwl, ond dw i’n byw ar gyfer ein gemau ar ddydd Sadwrn.

“Pan dw i’n gwybod fy mod yn mynd i fod i ffwrdd, dw i’n trefnu fy amserlen i wneud yn siŵr fod dim byd yn torri ar fy nhraws ac yna dw i’n gallu canolbwyntio ar Wrecsam.

“Mae’n eithaf cŵl.”

Ychwanega Ryan Reynolds fod ei wraig, yr actores Blake Lively, hefyd wedi ymgolli yn hynt a helynt Wrecsam.

Collodd Wrecsam y cyfle i ennill dyrchafiad i’r Ail Adran y tymor diwethaf, gan orffen yn ail y tu ôl i’r pencampwyr Stockport County yn y Gynghrair Genedlaethol, cyn colli rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Grimsby.

Colli oedd hanes Wrecsam yn rownd derfynol Tlws yr FA yn erbyn Bromley hefyd.