Mae tîm criced Swydd Gaerhirfryn wedi sicrhau na fydd Morgannwg yn cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd, ar ôl iddyn nhw gipio buddugoliaeth o naw wiced yng Nghastell-nedd.

Tarodd Luke Wells (50) a Keaton Jennings (77 heb fod allan) hanner canred yr un wrth i sir y rhosyn coch gyrraedd y nod o 178 gyda thros 14 o belawdau’n weddill, ac roedd Josh Bohannon ddau rediad yn brin o’i hanner canred ar ddiwedd yr ornest.

Sgoriodd Colin Ingram 54 i Forgannwg, gyda Joe Cooke yn cyfrannu 40, ond digon siomedig oedd perfformiad Morgannwg gyda’r bat a’r bêl.

Colli wicedi

Talodd penderfyniad Swydd Gaerhirfryn i wahodd Morgannwg i fatio ar ei ganfed, wrth iddyn nhw gipio dwy wiced yn y cyfnod clatsio, a thrydedd wiced yn fuan wedyn.

Cafodd Tom Bevan ei ddal yn y slip gan Danny Lamb oddi ar fowlio Tom Bailey yn yr ail belawd, cyn i Sam Northeast ddilyn yn dynn ar ei sodlau ddwy belawd yn ddiweddarach, wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced gan yr un bowliwr.

Roedd Kiran Carlson a Colin Ingram wedi adfer y sefyllfa rywfaint fel eu bod nhw’n 57 am ddwy erbyn diwedd pymtheg pelawd y cyfnod clatsio, ond roedd gwaeth i ddod wrth i’r capten Kiran Carlson gael ei ddal gan y wicedwr George Lavelle oddi ar fowlio Will Williams am 22 i adael y sir Gymreig yn 60 am dair.

Gyda’r llain yn parhau i gynorthwyo’r bowlwyr, daeth pedwaredd wiced i Swydd Gaerhirfryn yn y bedwaredd pelawd ar hugain pan wnaeth Liam Hurt ddarganfod ymyl bat Chris Cooke, a hwnnw wedi’i ddal gan Lavelle i adael Morgannwg yn 76 am bedair.

Collodd Morgannwg eu pumed wiced ym mhelawd rhif 31, wrth i Joe Cooke yrru at Lamb oddi ar fowlio George Balderson am 40, ac erbyn hynny roedden nhw’n 129 gyda Colin Ingram yn sefydlogi’r batiad wrth gyrraedd ei hanner canred.

Erbyn i Ingram gael ei ddal gan Luke Wells oddi ar fowlio Lamb am 54, roedd Morgannwg yn 147 am chwech, ond collon nhw ddwy wiced arall ar 158, gyda James Weighell yn cael ei ddal gan Lavelle oddi ar fowlio Balderson a Tom Cullen yn cael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Lamb.

Roedden nhw’n 164 am naw wrth i Ruaidhri Smith roi pedwerydd daliad i Lavelle, oddi ar fowlio Hurt, a chafodd Prem Sisodiya ei fowlio gan Bailey wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 177 – y pedwerydd tro yn olynol iddyn nhw fethu â wynebu eu pelawdau i gyd.

Cwrso’n gyfforddus

O gymharu ag ymdrechion Morgannwg ym mhelawdau’r cyfnod clatsio, cafodd agorwyr Swydd Gaerhirfryn fawr o drafferth yn erbyn y cyfyngiadau maesu, wrth i Keaton Jennings a Luke Wells arwain eu tîm i sgôr o 63 heb golli wiced o fewn y pymtheg pelawd agoriadol.

Cyrhaeddodd Wells ei hanner canred wrth i’r Saeson ddechrau cyflymu’r sgorio, ond wrth i Forgannwg droi at y troellwr, cipiodd Carlson wiced fawr Luke Wells am 50, gyda’r sgôr yn 83 am un yn y bedwaredd pelawd ar bymtheg.

Ond aeth Jennings yn ei flaen i gyrraedd y garreg filltir hefyd, a hynny yn y chweched pelawd ar hugain gyda’r ymwelwyr yn dal i edrych yn ddigon cyfforddus ac fe gyrhaeddon nhw’r nod gyda 14 o belawdau’n weddill.

Canolbwyntio ar y Bencampwriaeth

Er bod gan Forgannwg ddwy gêm yn weddill yn y gystadleuaeth, yn erbyn Hampshire yng Nghastell-nedd a Swydd Gaerwrangon yng Nghaerwrangon, gyda’u gobeithion ar ben fe fyddan nhw nawr yn troi eu sylw at y Bencampwriaeth, yn ôl Mark Wallace, eu Cyfarwyddwr Criced.

“Canlyniad siomedig,” meddai.

“Yn y lle cyntaf, mae’n braf cael bod yn ôl yn chwarae yng Nghastell-nedd.

“Mae yna rywbeth arbennig am chwarae criced ar gaeau allanol, felly mae’n wych i bawb yng Nghastell-nedd i gael cynnal y gêm ac mae hi wedi bod yn achlysur ffantastig.

“Ond roedd ein perfformiad yn siomedig.

“Roedd colli’r dafl yn dipyn o ffactor ac fe wnaethon nhw fowlio’n dda iawn gyda’r bêl newydd.

“Doedden ni ddim cweit wedi gallu amsugno’r pwysau hynny ac wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, fe wnaeth y llain fynd yn fwy fflat.

“Doedden ni ddim wedi gallu torri trwodd ddigon gyda’r bêl newydd ac aeth y gêm i ffwrdd oddi wrthym ni.

“Ar y cyfan, canlyniad siomedig ond mae’n dda cael bod yn ôl yng Nghastell-nedd.”