Mae tîm criced Morgannwg yn chwarae yng Nghastell-nedd am y tro cyntaf ers 27 o flynyddoedd heddiw (dydd Mercher, Awst 17), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerhirfryn yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, cyn i Hampshire gyrraedd cae’r Gnoll ddydd Gwener (Awst 19) yn yr un gystadleuaeth.
Awst 28, 1994 oedd y tro diwethaf i Forgannwg chwarae ar y cae allanol ger y cae rygbi, pan guron nhw Swydd Gaerlŷr o 33 rhediad yn y gynghrair undydd, diolch yn bennaf i 49 gan Steve James a phum wiced Steve Barwick am 36.
Mae Morgannwg wedi chwarae 12 o gemau Rhestr A yng Nghastell-nedd, a daeth y gyntaf ohonyn nhw yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn rownd wyth olaf Cwpan Gillette yn 1963, gan golli o 46 rhediad diolch i 93 gan Tom Graveney a phum wiced Jack Flavell am 43, er i’r Cymro Cymraeg Euros Lewis sgorio 78 – y sgôr Rhestr A gorau i’r sir ar y cae hwn.
Mae tri batiwr wedi sgorio canred yn erbyn Morgannwg mewn gemau undydd yng Nghastell-nedd – yr Awstraliad Mark Waugh (112 heb fod allan i Essex yn 1989), Graham Rose (138) a Jimmy Cook (136 heb fod allan) i Wlad yr Haf yn 1990.
Mae criced dosbarth cyntaf wedi’i gynnal ar y Gnoll yn achlysurol ers 1934, ac yn flynyddol tan 1973, wrth i’r sir ddefnyddio’r ysgol griced dan do fel safle hyfforddi yn ystod misoedd y gaeaf.
Yn 1985, 1989 a 1993, chwaraeodd Morgannwg yn erbyn Awstralia yng Nghastell-nedd. Tarodd Javed Miandad ganred dwbwl yn 1985, a sgoriodd Matthew Maynard ganred yn 1993 cyn cinio.
Yn 1995, yr Awstraliaid Ifainc oedd yr ymwelwyr, a’r tîm hwnnw’n cynnwys nifer o chwaraewyr ddaeth yn fawrion y tîm cenedlaethol llawn – Ricky Ponting, Justin Langer, Adam Gilchrist, Stuart Law, a dau sydd wedi chwarae i Forgannwg, Matthew Elliott a Michael Kasprowicz.
Gemau’r gorffennol: Morgannwg v Swydd Gaerhirfryn
Mae Morgannwg wedi llithro i’r seithfed safle yn y tabl ar ôl colli yn erbyn Swydd Northampton ac Essex, tra bod Swydd Gaerhirfryn yn ail ac yn dal i geisio sicrhau eu lle yn y rowndiau olaf.
Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy sir herio’i gilydd mewn gêm undydd Rhestr A ers 2015, er i’r gêm honno yn Old Trafford ddod i ben ar ôl dim ond 52 o belenni o ganlyniad i’r glaw.
Maen nhw wedi herio’i gilydd dair gwaith ar y Gnoll yn y Bencampwriaeth – yn 1937, 1956 a 1961 – ond dyma’r gêm undydd Rhestr A gyntaf erioed rhwng y ddwy sir yng Nghastell-nedd gan mai yng Nghaerdydd, Glyn Ebwy, Abertawe, Pontypridd a Llandrillo-yn-Rhos maen nhw wedi chwarae yn y gorffennol.
Yn Llandrillo-yn-Rhos maen nhw wedi chwarae ar y cyfan ar hyd y blynyddoedd.
Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2004, a hynny o bum wiced, tra mai’r Saeson oedd yn fuddugol, o wyth wiced, y flwyddyn ganlynol yn y gogledd.
Enillodd y Saeson o wyth wiced eto yng Nghaerdydd yn 2009, tra bod Morgannwg wedi ennill o 27 rhediad yn ddiweddarach y tymor hwnnw.
Enillodd Swydd Gaerhirfryn o wyth wiced eto fyth yn y gogledd yn 2011, tra mai Morgannwg enillodd yno yn 2011, o 69 rhediad.
Yn yr ornest yn 2011, sgoriodd Morgannwg 328 am bedair mewn 33 pelawd wrth i Alviro Petersen sgorio 144, gan gynnwys naw pedwar a deg chwech mewn partneriaeth agoriadol o 199 gyda Gareth Rees, oedd yn record yn y gystadleuaeth, cyn i Stewart Walters sgorio hanner canred oddi ar 19 o belenni, gyda Stephen Moore a Steven Croft yn cyrraedd y garreg filltir i’r Saeson wrth i Dean Cosker gipio pedair wiced i Forgannwg.
Dydy Swydd Gaerhirfryn ddim wedi ennill gêm undydd Rhestr A yng Nghymru ers 2010, pan darodd Steven Croft 93 yn y gogledd wrth i’w dîm ennill gydag 16 o belenni’n weddill.
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, C Cooke, J Cooke, T Cullen, A Gorvin, C Ingram, D Lloyd, S Northeast, B Root, A Salter, P Sisodiya, R Smith, J Weighell
Carfan Swydd Gaerhirfryn: K Jennings (capten), T Bailey, G Balderson, J Blatherwick, J Bohannon, S Croft, L Hurt, R Jones, D Lamb, G Lavelle, J Morley, L Wells, W Williams
Sgorfwrdd: