Mae Len Johnrose, cyn-chwaraewr pêl-droed Abertawe, wedi marw ar ôl brwydr hir â chlefyd niwronau motor.
Roedd yn 52 oed.
Chwaraeodd e fel chwaraewr canol cae amddiffynnol i’r Elyrch, gan sgorio tair gôl, ac roedd e’n aelod o’r garfan wnaeth adfer eu statws fel tîm yn y Gynghrair Bêl-droed ar ôl osgoi’r gwymp ar ddiwrnod olaf tymor 2002-03.
Sgoriodd e un o bedair gôl yn erbyn Hull ar ddiwrnod tymor, wrth i James Thomas sgorio hatric yn y fuddugoliaeth dyngedfennol o 4-2.
Dechreuodd ei yrfa yn Blackburn, gan fynd yn ei flaen i chwarae i Preston, Hartlepool, Bury a Burnley.
Roedd disgwyl iddo fe ymestyn ei gytundeb gyda’r Elyrch cyn i Brian Flynn gael ei benodi’n rheolwr, ond fe adawodd e’r clwb ddeuddydd yn ddiweddarach ac ymuno â Burnley am y trydydd tro.
Ar ôl ymddeol, daeth e’n athro ond fe gafodd e ddiagnosis o glefyd niwronau motor yn 2017, a chafodd gêm deyrnged ei threfnu i godi arian iddo yn ddiweddarach.
“Rydym yn torri’n calonnau o orfod dweud wrthych fod ein harweinydd, Len Johnrose, wedi marw fore heddiw,” meddai neges ar gyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth Len Johnrose.
“Roedd Len yn ŵr a thad hynod falch.
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau ar yr adeg drist iawn hon.”
Teyrnged i “gymeriad bywiog, byrlymus”
“Yn gymeriad bywiog, byrlymus, roedd Lenny yn annwyl iawn gan gefnogwyr, cyd-chwaraewyr a staff yn ystod ei gyfnod ar y Vetch,” meddai Clwb Pêl-droed Abertawe mewn datganiad.
“Daeth e i gêm Abertawe yn fwyaf diweddar yn erbyn Sheffield United yn 2019, ar ôl diagnosis o Glefyd Niwronau Motor ym mis Mawrth 2017, a chododd y dorf yn Stadiwm Swansea.com ar eu traed pan ymddangosodd e ar y cae.
“Roedd Lenny wedi byw a bod gyda’i salwch gyda dyfalbarhad nodweddiadol a hiwmor dda.
“Sefydlodd Ymddiriedolaeth Len Johnrose i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr nad oes gwellhad ohono, a chafodd gêm elusennol ei chynnal yn 2019 oedd yn cynnwys nifer o’i gyn gyd-chwaraewyr.
“Bydd colled fawr a thrist ar ôl Lenny gan bawb yn Abertawe, ac mae’r clwb yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a’i ffrindiau ar yr adeg drist eithriadol hon.
“Fel arwydd o barch, bydd yna funud o gymeradwyaeth cyn ein gêm gartref yn erbyn Millwall nos Fawrth, a bydd ein chwaraewyr yn gwisgo band du am eu breichiau.”
“Dyletswydd” cyn bêl-droediwr i ddweud am motor niwron