Mae Lenny Johnrose, cyn bêl-droediwr Abertawe, yn dweud bod “dyletswydd” arno i dynnu sylw at yr ystadegau brawychus sy’n cysylltu pêl-droed â chlefyd motor niwron.

Cafodd y dyn 49 oed ddiagnosis ym mis Mawrth 2017 ar ôl anafu ei law, ac mae’n dweud iddo ddioddef o iselder a cheisio dod o hyd i ffordd i gael cymorth i farw.

“Do’n i ddim eisiau bod yn faich, na chael marwolaeth hir neu fyr a phoenus,” meddai wrth Press Association.

“Felly roedd yna ddiwrnodau du iawn, iawn lle’r oeddwn i’n meddwl y gwaethaf.”

Does dim gwellhad o’r cyflwr, sy’n effeithio ar y ffordd y mae rhywun yn cerdded, siarad, bwyta ac anadlu ac sy’n cwtogi bywyd.

Mae’r rhai sy’n chwarae gemau â phêl yn wynebu risg uwch o ddioddef o’r cyflwr, ac mae 16 o achosion gan wyth sefydliad meddygol yn awgrymu bod cyswllt rhwng ergydion i’r pen a’r cyflwr.

Mae chwaraewyr wyth gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o’r cyflwr na phobol eraill.

‘Brawychus’

“Mae’n eithaf brawychus i ddysgu [yr hyn mae’r astudiaeth yn ei ddangos] a dw i’n mynd i glybiau ac yn gorfod bod yn eithaf sensitif i hynny oherwydd dw i ddim eisiau i bobol feddwl, ‘O na, dw i’n mynd i gael motor niwron oherwydd dw i’n chwarae pêl-droed’.

“Oherwydd fyddwn i ddim wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol.

“Ond dw i’n credu ei bod yn neges bwysig iddyn nhw wybod amdani.

“Mae angen llawer o astudiaethau ac ymchwil eto.

“Ond oherwydd y ffaith fod nodweddion cyffredin rhwng pêl-droed a motor niwron, mae’n ymddangos yn anghywir pe na bawn i’n ceisio lledaenu’r gair.

“Os digwydd bod cyswllt, yn nhermau goblygiadau, fe fyddai’n anferth o beth o fewn pêl-droed, felly dw i’n sicr yn credu ei bod yn neges sy’n werth ei throsglwyddo.”

Y dyfodol

Mae Lenny Johnrose yn dweud ei fod yn teimlo’n “iawn” am y dyfodol.

“Dw i wedi dod dros y sioc ges i’n wreiddiol a weithiau dw i’n meddwl am sut fydd bywyd i’r bobol fydd yn cael eu gadael ar ôl, ond alla i ddim meddwl yn y fath fodd.

“Dw i’n mynd i barhau i godi ymwybyddiaeth, fe af fi ar fy ngwyliau a chael seibiant pan alla i.

“Fe wna i bethau alla i gyda’r teulu, pan alla i eu gwneud nhw, ac fe wna i barhau i fwynhau fy mywyd, pa un a fydda i yma am y ddwy funud neu’r ugain mlynedd nesaf.”