Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio Cyngor Ieuenctid gyda’r bwriad o ddod â phobol ifanc yn rhan o benderfyniadau sy’n ymwneud â’r gêm yng Nghymru.
Nod y Cyngor Ieuenctid yw rhoi llwyfan i blant a phobol ifanc ddylanwadu ar newid ym mhêl-droed Cymru wrth ddatblygu eu hunain fel arweinwyr ifainc a llysgenhadon y gêm.
Rôl Aelod Cyngor Ieuenctid yw cynrychioli llais plant a phobol ifanc gan roi cyngor ar bolisi a datblygiad pêl-droed yng Nghymru.
Bydd y Cyngor Ieuenctid, sy’n cynnwys aelodau 16-24 oed, yn cyfarfod bob chwarter gan gloi gyda Chynhadledd Cyngor Ieuenctid blynyddol gyda’r nod o gefnogi datblygiad sgiliau arwain pobl ifanc.
Lleisiau ifanc, amrywiol yn bwysig
Mae’r cyhoeddiad wedi derbyn ymateb cymysg.
“Ticio bocsys ond ddim yn datrys problemau go iawn,” meddai un ar Twitter.
Fe ymatebodd Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru gan ddweud: “Mae cael ein llywodraethu yn gywir a gwrando ar leisiau ifanc, amrywiol yn bwysig. Mae’n ein helpu i ddatrys problemau mewn ffordd well.”
We are looking for the future leaders of Welsh football and to represent young voices in our decision making … our new Junior Council is another step towards becoming a leading football nation ???????⚽️ #TogetherStronger ? https://t.co/ob6itPba46
— Noel Mooney (@NoelMooney13) August 22, 2022
Ond mae eraill wedi dathlu’r newyddion.
“Dylai hyn gael ei gopïo ym mhob rhan o Gymru trwy AA’s. Dyma geidwaid yfory a dylem drosglwyddo’r baton yn esmwyth, gydag urddas a balchder a dealltwriaeth lawn,” meddai un arall.
- I ddarganfod mwy ac i wneud cais cliciwch yma.