Cadi Dafydd, Uwch Ohebydd golwg360, sy’n rhannu profiadau ei theulu ar ôl i’w nain 91 oed dreulio tua 21 awr mewn ambiwlans ar ôl cael strôc fechan ac aros tair awr i’r ambiwlans gyrraedd y tŷ. Mae hi’n hawdd trio beio Covid, meddai, ond roedd y problemau yna cyn hynny…


Rhag ofn nad ydy’r ystadegau’n ddigon o brawf o’r hyn sy’n digwydd i’r Gwasanaeth Iechyd, treuliodd fy nain, sy’n 91 oed, tua 21 awr mewn ambiwlans ar ôl cael strôc fechan yr wythnos ddiwethaf.

Tua theirawr gymrodd hi i’r ambiwlans gyrraedd y tŷ – arwydd arall o sobrwydd y sefyllfa ydy fy mod i bron â sgrifennu ‘ddim rhy ddrwg’ yn fan hyn – ac wedi hynny cafodd ei hebrwng i Ysbyty Gwynedd.

Cyn hired oedd ciw yr ambiwlansys yn fan honno, gwnaed y penderfyniad i fynd â hi i Ysbyty Maelor yn Wrecsam yn y gobaith y byddai’r sefyllfa’n well. Doedd pethau fawr gwell, afraid dweud.

Cafodd ei derbyn i’r ysbyty yn y pendraw, ac yno mae hi’n dal i fod – mewn hwyliau da ac yn disgwyl mwy o brofion. Dim ond diolch sydd gen i, a’r teulu, i holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi gofalu amdani, ac sydd, dw i’n siŵr, llawn mor rhwystredig ynghylch y sefyllfa.

Mae yna dueddiad i ddarllen ystadegau a pheidio gwir werthfawrogi mawredd yr argyfwng sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd.

‘Hawdd trio beio Covid’

Ym mis Gorffennaf, er enghraifft, cymrodd hi dros awr i ambiwlansys gyrraedd 67% o alwadau ambr yng Nghymru, categori sy’n cynnwys strôcs. Dim ond 18% gyrhaeddodd o fewn hanner awr. 52% o ambiwlansys gyrhaeddodd y galwadau lle’r oedd perygl i fywyd o fewn y targed o wyth munud.

Ac wrth adrodd ar ystadegau llawn mor llwm â hyn ers misoedd bellach dydy rywun ddim yn eu hamgyffred nhw’n iawn – ddim yn gallu eu hymgyffred nhw? Ddim eisiau eu hamgyffred nhw? Dw i ddim yn siŵr.

Ond wrth i brofiadau fel un fy nain ddod yn fwyfwy cyffredin, mae hi’n dod yn anoddach eu hanwybyddu. Ac, yn sgil hynny, mae hi’n anodd peidio cwestiynu pam bod y Gwasanaeth Iechyd mewn ffasiwn stâd hefyd.

Mae hi’n hawdd trio beio Covid, ond roedd y problemau yna cyn hynny.

Hawdd hefyd sôn am brinder staff, ond heb ymdrechion i wella cyflogau ac amodau gwaith, dydy honno ddim yn broblem sydd am ddiflannu’n fuan.

Dydy hi ddim cyfrinach bod y Gwasanaeth Iechyd wedi cael ei danariannu dros y blynyddoedd, ac wrth i boblogaeth Cymru heneiddio mae lle i gwestiynu os ydy’r arian sy’n cael ei ddyrannu i Gymru dan Fformiwla Barnett yn ddigon i ateb y galw hwnnw.

Dydy problemau yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol yn helpu dim ar y sefyllfa chwaith, a tan fydd gofalwyr yn cael yr un tâl a pharch â gweithwyr iechyd mae hi’n anodd gweld dim gwelliannau.

Ond oes yna werth i’r dadansoddi yma os nad oes awch i weld newid? Ai cynllun y Ceidwadwyr yn San Steffan ydy cynnal gwasanaeth iechyd mor aneffeithlon nes bod mwy a mwy o bobol yn troi at ofal preifat?

Ond, mae un peth yn sicr, waeth pa mor arbennig oedd gofal y parafeddygon fu efo fy nain am oriau’n ddibendraw, byddai treulio 21 awr mewn ambiwlans yn brofiad amhleserus, anghyfforddus a phyderus i bawb, heb sôn am rywun 91 oed sydd newydd gael strôc.