Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am wahardd cynghorydd Plaid Cymru yn sgil sylwadau sarhaus am Saeson ar Facebook.
Mewn neges sydd bellach wedi cael ei dileu, dywedodd Jon Scriven, sy’n gynghorydd yng Nghaerffili, ei fod e’n mynd i “Aberogwr heno i nofio’n gyflym a sicrhau nad oedd unrhyw Saeson yn ceisio croesi’r Sianel”.
Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, roedd y neges, oedd yn cynnwys llun o’r cynghorydd yn dal dryll, yn “arddangos senoffobia tuag at bobol Seisnig”.
“Mae yna awgrym clir o drais a senoffobia yn y neges hon,” meddai llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“P’un ai’r bwriad oedd jôc neu beidio, mae’n gwbl amhriodol i swyddog etholedig wneud y fath sylwadau, pan ddylen nhw wybod yn well.
“Gyda chymaint o gasineb mewn gwleidyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, dylem fod yn ceisio codi pontydd, nid achosi rhagor o raniadau.
“Rhaid i Blaid Cymru wneud y peth iawn a gwahardd y cynghorydd dan sylw.”
Mae golwg360 wedi cysylltu â Phlaid Cymru am ymateb.