Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu ac ar drothwy’r gaeaf, mae un cyngor sir wedi cyflwyno cyfres o fesurau i helpu trigolion yng Ngwynedd.

Fe ddaw wrth i bobol a theuluoedd bregus ar incwm isel ei chael hi’n gynyddol anodd o ganlyniad i brisiau bwyd yn cynyddu, a morgeisi a biliau ynni uwch.

Gan fod rhai awdurdodau lleol wedi cyflwyno mentrau arloesol megis ‘canolfannau cynnes’, gofynnodd y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol i Gyngor Gwynedd pa gymorth sydd ar gael.

Dywedodd y Cyngor eu bod nhw eisoes wedi cyflwyno nifer o gynlluniau i helpu, ond eu bod nhw hefyd yn chwilio am ffyrdd newydd. Roedd hi’n dal i fod yn ddyddiau cynnar o ran rhai cynlluniau, a bydd rhagor o fanylion “yn cael eu cyhoeddi maes o law”.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i gefnogi pobol sy’n eu cael eu hunain mewn sefyllfa fregus o ganlyniad i’r argyfwng costau byw, gan gynnwys mentrau i helpu pobol i gadw’n gynnes dros y gaeaf,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Rydym ar hyn o bryd mewn trafodaethau efo gwahanol bartneriaid lleol i archwilio ffyrdd newydd ac ychwanegol o gydweithio i gefnogi unigolion a theuluoedd bregus trwy’r argyfwng costau byw, ac yn enwedig trwy fisoedd y gaeaf.

“Fel cyngor, mae gennym ni nifer o fentrau rhagweithiol yn eu lle eisoes i helpu pobol leol drwy’r amserau anodd hyn.

“Mae’r rhain yn cynnwys rhwydwaith o ganolfannau mewn cymunedau ledled Gwynedd, ar y cyd â grwpiau cymunedol ym Methesda, Pwllheli, Nefyn, Caernarfon, y Bala, Botwnnog, Maesgeirchen, Penygroes, y Bermo, Llanaelhaearn a Blaenau Ffestiniog.

“Nod y canolfannau hyn yw cefnogi unigolion â phroblemau incwm, cyllid a dyledion, a’r sawl sydd angen mynediad at fwyd.”

Cymorth pellach

Ymhlith y cymorth sy’n cael ei ddarparu, dywed y Cyngor eu bod nhw wedi cynyddu eu cefnogaeth ariannol i wasanaeth Cyngor Ar Bopeth Gwynedd.

Wedi’i redeg gan wirfoddolwyr, gall y gwasanaeth ddarparu gwybodaeth i bobol nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i fyw. Gall cynghori ar y cymorth sydd ar gael gan y llywodraeth, budd-daliadau a phensiynau.

Gall hefyd gyfeirio pobol at gymorth gyda phethau hanfodol, megis biliau a bwyd, trwy gynlluniau megis y Gronfa Cymorth i Aelwydydd a Thaliadau Costau Byw.

Dywed y Cyngor fod ganddyn nhw “dîm pwrpasol” o swyddogion sydd hefyd yn cefnogi trigolion cymwys i gael mynediad at daliadau tanwydd y gaeaf a chostau byw.

Mae yna gronfa fwyd mewn argyfwng hefyd i gefnogi grwpiau cymunedol i redeg cynlluniau bwyd, banciau bwyd, clybiau swper ac i wneud defnydd o fwyd a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu.

Dywed y Cyngor eu bod nhw hefyd yn rhoi “cymorth ariannol uniongyrchol” i fanciau bwyd lleol, a’u bod nhw wedi sefydlu Tîm Tlodi Tanwydd pwrpasol i gynnig cyngor ynghylch y defnydd o ynni ac i helpu trigolion i gael mynediad at fentrau i wneud eu cartrefi’n fwy ynni effeithlon.

Mae cymorth grantiau gofal plant hefyd ar gael i alluogi rhieni i fynd i’r gwaith, a gwasanaeth Cymunedau Am Waith sydd wedi’i sefydlu i helpu pobol leol i gael mynediad at swyddi “o safon”.

Mae’r sir hefyd yn darparu prydau bwyd am ddim yn yr ysgol i bob plentyn dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 yn yr ysgol gynradd o fis Medi fel rhan o fenter Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru.

Erbyn Ionawr 2023, bydd Blwyddyn 2 yn cael ei chyflwyno ac ym mis Medi 2023, bydd y cynllun hwn yn cael ei ymestyn i weddill disgyblion ysgolion cynradd Gwynedd.

“Rydym yn annog unrhyw drigolion yng Ngwynedd sy’n ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd i ymweld â www.gwynedd.llyw.cymru i ddarganfod mwy am y mentrau hyn yn ogystal â mathau eraill o gefnogaeth neu i gysylltu â ni drwy ffonio 01766 771000.”