Teuluoedd ar incwm isel sydd â phlant fydd yn dioddef waethaf yn sgil yr argyfwng costau byw, yn ôl un elusen.

Mae disgwyl cadarnhad yr wythnos hon y bydd y cap ar brisiau ynni yn codi 82%, o £1,971 i £3,582, ym mis Hydref.

Yn ôl arolwg a gafodd ei gynnal ddechrau’r haf, roedd 53% o bobol yng Nghymru yn meddwl y bydd rhaid iddyn nhw ddefnyddio llai o ynni yn y chwe mis nesaf.

Ond yn ôl Cyngor ar Bopeth Cymru, mae’r arolygon diweddaraf yn dangos bod yr ofnau hynny wedi gwaethygu gyda rhai grwpiau’n fwy tebygol o ddweud eu bod nhw am orfod defnyddio llai o ynni nawr.

  • 66% o bobol gyda phlant 18 oed ac iau ar yr aelwyd.
  • 58% o deuluoedd ar incwm isel.
  • 61% o’r rhai ag anableddau neu sydd â chyflwr iechyd hirdymor (o gymharu â 50% o’r rhai heb).
  • 66% o rentwyr yn y sector rhentu preifat neu gymdeithasol (o gymharu â 47% o bobol sy’n berchen ar eu tai).
  • 74% o bobol sydd ar ei hôl hi â biliau ar y funud.

‘Effaith hirhoedlog’

Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu ar unwaith er mwyn helpu aelwydydd, gan gynnwys drwy gynyddu budd-daliadau er mwyn cyd-fynd â’r argyfwng costau byw.

Dywedodd Luke Young, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor ar Bopeth Cymru: “Rydyn ni wedi canu’r larwm ynghylch y don o ddyled ynni fydd yn hyrddio tuag atom ym mis Hydref, ac rydyn ni’n gobeithio bod y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau yn gwrando o’r diwedd.

“Mae pobol yng Nghymru, a thros y Deyrnas Unedig, yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd yn barod.

“Mae ein hymchwil yn dangos y caledi ychwanegol sy’n wynebu teuluoedd â phlant, pobol ag anableddau, a rhentwyr.

“Er bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar ystod eang o aelwydydd, y rhai ar incymau isel sydd am ddioddef waethaf.

“Bydd lefelau cynyddol o dlodi a dyled yn cael effaith hirhoedlog ar fywydau pobol. Os bydd plentyn yn oer neu’n llwglyd dros y gaeaf, fyddan nhw byth yn gallu anghofio hynny.”

Cyngor Gwynedd yn cyflwyno mesurau i helpu pobol yn sgil yr argyfwng costau byw

Dale Spridgeon, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae pobol a theuluoedd incwm isel yn ei chael hi’n anodd yn sgil costau bwyd cynyddol, a morgeisi a biliau ynni uwch