Mae dros hanner meddygon Cymru wedi dweud eu bod nhw’n debygol o adael y Gwasanaeth Iechyd yn sgil cynnig codiad cyflog gan Lywodraeth Cymru.
Codiad cyflog o 4.5% sy’n cael ei gynnig i feddygon Cymru, cynnydd sy’n is na chwyddiant.
Wrth ymateb i arolwg tâl Cymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) Cymru, corff sy’n cynrychioli meddygon, dywedodd 79% bod morâl y gweithlu wedi dirywio ymhellach yn sgil y cynnig, a dywedodd 52% o’r rhai atebodd yr arolwg eu bod nhw’n fwy tebygol o adael y Gwasanaeth Iechyd erbyn hyn.
Mae meddygon wedi rhybuddio bod y Gwasanaeth Iechyd yn “agos at ddymchwel” hefyd, gyda nifer uchel yn dweud eu bod nhw wedi ymlâdd.
Rhybuddiodd meddygon ei bod hi’n amhosib cynnal gofal gwych ar y funud yn sgil diffyg staff, ac roedd diogelwch cleifion yn bryder i sawl un.
Dywedodd un bod y sefyllfa’n “ddychrynllyd”, a chyfeiriodd eraill at deimlo fel nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi ac mai eu hunig opsiynau yw cwtogi eu horiau, ymddeol yn gynnar, neu symud dramor, er y byddai hynny’n ychwanegu at y broblem.
‘Rhedeg allan o amser’
Dywedodd Dr Iona Collins, Cadeirydd Cyngor BMA Cymru, bod y canfyddiadau’n cyd-fynd â’r hyn mae hi’n ei glywed gan gydweithwyr dros Gymru.
“Mae meddygon yn gweithio yn y Gwasaneth Iechyd Gwladol oherwydd eu bod nhw’n credu yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Fodd bynnag, mae’r amodau gwaith a’r tâl yn herio eu penderfyniad i barhau i weithio i’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai Dr Iona Collins.
“Mae’r tâl mae meddygon yn mynd adref gyda nhw wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, gan olygu bod y Gwasanaeth Iechyd yn gyflogwr cynyddol anneniadol.
“I wneud pethau’n waeth, mae meddygon yn wynebu biliau treth pensiwn cymhleth, gan olygu bod rhai meddygon yn gweithio am ddim i bob pwrpas, ac eraill yn darganfod eu bod nhw wedi colli’r arian drwy fynd i’r gwaith yn y lle cyntaf.
“Mae hyn yn golygu na all meddygon gynyddu eu horiau gwaith arferol ac felly nid oes unrhyw gynnydd sylweddol wrth ostwng rhestrau aros.
“Dydy hi ddim yn anodd deall pam fod cymaint o feddygon hŷn yn ymddeol yn gynnar a pham bod meddygon iau yn symud dramor neu’n dod o hyd i yrfaoedd eraill.
“Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu i’r fath raddau yn y flwyddyn ddiwethaf nes bod 52% o swyddi ymgynghorwyr meddygol Cymru a Lloegr dal yn wag.
“Rydyn ni’n rhedeg allan o amser. Mae Covid wedi gwaethygu problem sydd wedi bod yn esblygu ers blynyddoedd a does yna ddim pwynt cael cynlluniau adfer Covid pan nad oes yna ddigon o staff i gyflwyno’r gwasanaethau ar hyn o bryd, heb sôn am drio cynyddu nifer y gwasanaethau sydd ar gael.
“Rydyn ni wedi darllen gymaint o adroddiadau sy’n amlygu’r un ddwy broblem – dim digon o staff a dim digon o adnoddau. Mae angen i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru edrych yn fanwl ar sut maen nhw’n gwerthfawrogi’r gweithlu meddygol ac ailystyried y codiad cyflog arfaethedig yn unol â hynny.
“Bydd tâl afresymol yn gyrru mwy o feddygon o’r Gwasanaeth Iechyd.”
Bydd cynrychiolwyr BMA Cymru yn cyfarfod Eluned Morgan, gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Cymru, fis nesaf i drafod.
‘Pwyso am gyllid’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi derbyn argymhellion cyrff adolygu cyflogau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Wrth gyhoeddi’n dyfarniad cyflog ar gyfer gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, fe wnaethom egluro bod cyfyngiadau ar ba raddau y gallwn fynd i’r afael â’r pryderon hyn yng Nghymru, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cyllid ychwanegol sy’n angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus.
“Rydyn ni’n cydnabod gwaith caled y rhai sy’n gweithio o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y staff sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers Mawrth 2021.”