Dros yr haf daeth pobol ynghyd mewn pum ardal yn y gogledd orllewin i drafod yr argyfwng hinsawdd gyda’r nod o gyd-greu cynllun gweithredu ymhob bro. Bydd y Cynulliadau Newid Hinsawdd, sy’n cael eu trefnu gan fudiad GwyrddNi, yn parhau ym Mhen Llŷn, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Bro Ffestiniog a Dyffryn Peris yn yr hydref.
Roedd Ifan Erwyn Pleming yn aelod o Gynulliad Pen Llŷn, ac yma mae’n ystyried sut all y gymuned leol gydweithio yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.
A minnau’n eistedd yn rhostio yn y gwres llethol yn ysgrifennu’r pwt yma o adroddiad, dyma feddwl. Beth ddaw o Benrhyn Llŷn, a’r byd, a dweud y gwir os na wnawn ni rywbeth yn weddol sydyn i newid ein ffyrdd ac i helpu’r blaned yma i ddod at ai hun? Mae un peth yn sicr, nid oes modd i bethau barhau fel y maent yn llawer hirach, ac mae’n bryd i ni fel pobol ddod at ein gilydd, a chyd-dynnu er budd ein cymunedau yma ar y Penrhyn cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Dyma fi, felly yn penderfynu mynd i gyfarfod cyntaf Cynulliad GwyrddNi Llŷn ym mis Gorffennaf, dim fy mod i’n gwybod llawer o ddim am newid hinsawdd cyn mynd, cofiwch, heblaw am un peth – ei bod yn broblem fawr sy’n prysur fynd yn waeth, ac yr hoffwn i wneud rhywbeth am y peth. O blith y cyflwyniadau, cafwyd un difyr iawn ar Zoom gan Sion Williams, Sarn Mellteyrn, sy’n bysgotwr masnachol, a hynny oddi ar fwrdd ei gwch! Bu’n trafod y newidiadau sydd wedi bod yn y maes hwn ers iddo gychwyn pysgota’n fasnachol. Cafwyd cyflwyniad difyr arall gan y Dr. Einir Young ar yr EcoAmgueddfeydd lleol a’r ffordd y mae angen meddwl am y pwnc hwn yn ein gweithgarwch bob dydd i daro ar gydbwysedd a sicrhau cynaliadwyedd. Cafwyd cyflwyniad arall ar effeithiau amaethyddiaeth ar newid yn yr hinsawdd. Dipyn o fedydd tân, cyn mynd ati i drafod mewn grwpiau llai!
Yn y grwpiau cydnabuwyd bod yr heriau sy’n wynebu’r gwahanol ardaloedd yn dra gwahanol, ac y gallwn ni, yma yn Llŷn wneud llawer mwy, a manteisio ar ein hadnoddau naturiol i gynhyrchu ynni’n lleol yn ein cymunedau. Roedd y llanw yn elfen amlwg yn y trafodaethau hyn. Pwysleisiwyd yn gryf hefyd bod rhaid cadw cydbwysedd rhwng amddiffyn iaith a diwylliant â’n tirwedd hardd, unigryw ni yma yn Llŷn. Gan sicrhau bod unrhyw fudd o gynlluniau ecogyfeillgar lleol yn aros yn lleol, fel y gall ein cymunedau ffynnu a bod yn hunangynhaliol. Pwynt arall a godwyd oedd y pryder bod Llŷn yn anghysbell ac nad oedd modd weithiau, bod mor wyrdd â phosibl oherwydd dibyniaeth ar gar a diffyg system drafnidiaeth gynaliadwy a phwyntiau pweru. Soniwyd am fanteision mentrau fel y bws Fflecsi, ond y gellid ymdrechu mwy i godi ymwybyddiaeth o’r adnodd gwych hwn.
Edrychaf ymlaen at gael treiddio’n ddyfnach i rai o’r materion hyn yn y Cynulliadau sydd yn yr arfaeth, er mwyn sicrhau bod Llŷn yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gydweithio a chyd-dynnu, yn wyneb yr argyfwng dybryd hwn, fel ein bod ninnau, fel ein tîm pêl-droed cenedlaethol, Gyda’n Gilydd yn Gryfach.