Mae 98% o bobol sy’n cael eu heffeithio gan anhwylderau bwyta’n teimlo y byddai rhoi calorïau ar fwydlenni yng Nghymru’n cael effaith negyddol arnyn nhw.

Dangosa arolwg gan Beat, elusen anhwylderau bwyta’r Deyrnas Unedig, bod 96% o’r rhai atebodd yn gwrthwynebu cynlluniau i gyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni mewn caffis, bwytai a siopau tecawê yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn am farn y cyhoedd ar gynlluniau arfaethedig i’w gwneud hi’n orfodol i galorïau gael eu cynnwys ar fwydlenni fel rhan o strategaeth i fynd i’r afael â gordewdra.

Ond, mae Beat yn galw ar Lywodraeth Cymru i osgoi cyflwyno labelu gorfodol er mwyn diogelu’r 58,000 o bobol yng Nghymru sy’n byw ag anhwylderau bwyta.

Canfyddiadau

Lleisiodd nifer o’r 100 o bobol a atebodd yr arolwg bryderon y byddai rhoi calorïau ar fwydlenni yn gwaethygu gorbryder i’r rhai sy’n byw ag anhwylder bwyta ac yn gwneud adferiad yn anoddach.

Dywedodd Rhys, nid ei enw iawn, ei fod wedi dioddef o anhwylder eto ar ôl gweld calorïau ar fwydlen mewn bwytai yng Nghymru.

“Roedd yn brofiad ofnadwy i fod yn ôl yng ngafael rhywbeth rwyf wedi gweithio mor galed i’w oresgyn,” meddai.

Roedd bron i 7 o bob 10 person wnaeth ymateb yn teimlo fel y bydden nhw’n mynd allan am fwyd yn llai aml pe bai calorïau’n cael eu cyflwyno ar fwydlenni yng Nghymru.

“Pe bai calorïau wedi’u hargraffu ar fwydlenni pan oeddwn ar fy ngwaethaf, ni fyddwn wedi gallu bwyta allan o gwbl,” meddai Elis, nid ei enw iawn.

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru’n cynnwys ystyried rhoi calorïau ar fwydlenni mewn lleoliadau gofal plant ac ysbytai hefyd, ac roedd nifer o’r ymatebwyr yn poeni am yr effaith y byddai’n ei gael ar blant a phobol ifanc.

‘Peryglus’

Dywedodd Jo Whitfield, Arweinydd Cenedlaethol Beat yng Nghymru, eu bod nhw’n annog Llywodraeth Cymru i beidio â gwneud calorïau ar fwydlenni yn orfodol.

“Mae tystiolaeth glir bod calorïau ar fwydlenni yn beryglus i’r rhai y mae’r salwch meddwl difrifol hwn yn effeithio arnynt,” meddai.

“Er enghraifft, gall labelu calorïau gynyddu teimladau o ofid a phryder, a all waethygu ymddygiadau anhwylderau bwyta a gwneud rhywun yn fwy sâl.

“Rydym yn arbennig o bryderus bod labelu calorïau yn cael ei ystyried ar gyfer bwydlenni plant, gan fod hyn yn debygol o gynyddu’r gorbryder y mae pobl ifanc ag anhwylderau bwyta yn ei deimlo am amseroedd bwyd a gwneud adferiad yn anoddach.

“Mae’r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar bobl ag anhwylderau bwyta, gyda llawer o bobl yn teimlo’n fwyfwy ynysig a gofidus, ac yn anffodus mae’r galw am gymorth yn parhau i dyfu.

“Mae labelu calorïau ar fwydlenni eisoes wedi dod i rym yn Lloegr, lle mae tîm ein llinell gymorth wedi bod yn cefnogi pobol sy’n ofidus am y newid hwn.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle hollbwysig i fyfyrio ar effaith negyddol deddfwriaeth Lloegr, ac i osgoi cyflwyno polisïau iechyd sy’n niweidio pobl ag anhwylderau bwyta.”

‘Angen atal gordewdra ac anhwylderau bwyta’

Ychwanegodd Dr Isabella Jurewicz o Goleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru bod gan ordewdra ac anhwylderau bwyta ffactorau risg tebyg o ran effeithiau corfforol a meddyliol.

“Dylai polisïau iechyd cyhoeddus symud o bwysleisio cyfrifoldeb unigol i fesurau iechyd sy’n seiliedig ar y boblogaeth,” meddai.

“Gallai labelu calorïau helpu rhai pobol i wneud dewisiadau gwybodus ond gallai hefyd fod yn niweidiol i blant a’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu anhwylder bwyta, neu’r rhai mewn adferiad, ac felly rydym yn cefnogi galwadau i osgoi cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni.

“Dylid cydlynu strategaethau i atal y ddau gyflwr wrth i fwy o blant a phobol ifanc nag erioed o’r blaen gael eu heffeithio, ac o oedran cynharach.

“Byddai polisïau sy’n rheoleiddio’r diwydiannau bwyd, diet a ffitrwydd, creu ysgolion a gweithleoedd iach, a mannau corfforol diogel sy’n annog chwarae a thrafnidiaeth actif yn ddefnyddiol er mwyn hybu lles meddyliol, gan gynnwys atal anhwylderau bwyta.”

Ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai’n rhaid i fwydlen heb galorïau fod ar gael ar gais ym mhob bwyty hefyd pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo.

“Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ystod o fesurau fel rhan o’r Amgylchedd Bwyd Iach, gan gynnwys cyflwyno calorïau ar fwydlenni,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gofyniad i leoliadau y tu allan i’r cartref sicrhau bod bwydlenni heb galorïau ar gael ar gais.

“Byddem yn annog pobol i ymateb i’r ymgynghoriad i ddweud eu dweud am y cynigion hyn.

“Er nad yw labelu’n orfodol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae rhai siopau eisoes wedi cyflwyno calorïau ar fwydlenni a gofynnwn i fwytai, lle bo modd, ddarparu bwydlenni nad ydynt yn cynnwys manylion calorïau ar gais.”

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan Fedi 1.

Galw am beidio rhoi calorïau ar fwydlenni yng Nghymru

Cadi Dafydd

“Pan mae rhywun yn byw ag anhwylder bwyta, gall cyfrif calorïau gadw nhw’n sâl am hirach,” medd arweinydd elusen Beat yng Nghymru