Mae elusen sy’n rhoi cymorth i bobol ag anhwylderau bwyta’n galw ar Lywodraeth Cymru i beidio’i gwneud hi’n orfodol i fwytai roi calorïau ar fwydlenni.

Yn ôl Arweinydd Cenedlaethol Beat yng Nghymru, mae cyflwyno’r gyfraith yn Lloegr wedi arwain at “nifer” o alwadau ffôn gan bobol sydd wedi’u heffeithio’n negyddol gan y newid.

Ers mis Ebrill eleni, mae’n rhaid rhoi calorïau ar fwydlenni yn Lloegr fel rhan o strategaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â gordewdra.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno’r un newid fel rhan o’u strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach.

Byddai’r cam yn golygu bod nifer y calorïau ymhob pryd a diod yn ymddangos ar fwydlenni mewn bwytai, têcawês, a chaffis.

Mae Llywodraeth Cymru’n pwysleisio y byddai’n rhaid i fwydlen heb galorïau fod ar gael ar gais ym mhob bwyty hefyd.

‘Niweidiol iawn’

“Rydyn ni’n gwybod fod rhoi calorïau ar fwydlenni’n gallu bod yn niweidiol iawn i bobol sydd ag anhwylderau bwyta,” meddai Jo Whitfield, arweinydd cenedlaethol yr elusen Beat yng Nghymru wrth golwg360.

“Yn 2021, fe wnaethon ni holi dros 1,100 o bobol yn y Deyrnas Unedig am gyflwyno calorïau ar fwydlenni.

“Fe wnaeth 93% o’r rhai atebodd ddweud y byddai cyflwyno calorïau ar fwydlenni yn negyddol neu’n negyddol iawn i bobol sy’n byw ag anhwylderau bwyta.

“Roedd 95% o’r rhai wnaeth ymateb yn bobol oedd wedi’u heffeithio gan anhwylderau bwyta – naill ai wedi cael anhwylder eu hunain o’r blaen, yn byw gydag un nawr, neu’n cefnogi rhywun gydag anhwylder bwyta.

“O’r ymatebion ddaeth yn ôl o’r arolwg hwnnw, roedd hi’n amlwg iawn fod cyflwyno labelu calorïau yn negatif neu’n negatif iawn.

“Yn fwy cyffredinol, rydyn ni wedi gweld pobol yn dod drwodd i’n llinell gymorth ni ar ôl iddi ddod yn orfodol i roi calorïau ar fwydlenni yn Lloegr, yn sôn am yr effaith negyddol mae cyfrif calorïau wedi’i chael yn ystod eu hanhwylder bwyta.

“Pan mae rhywun yn byw ag anhwylder bwyta, gall cyfrif calorïau gadw nhw’n sâl am hirach.

“Rydyn ni wedi clywed gan bobol sydd wedi gweld bod gweld y calorïau ar fwydlenni wedi achosi straen a gorbryder iddyn nhw.

“Mae rhai ohonyn nhw’n dweud ei fod wedi cyfrannu tuag at y ffordd maen nhw’n meddwl am fwyta, a bod eu hymddygiad yn gwaethygu.

“Mae pobol wedi adrodd eu bod nhw wedi dod yn fwy caeth i gyfrif calorïau ers eu gweld nhw ar fwydlenni. I bobol gydag anorecsia, gall achosi teimladau gofidus iawn o euogrwydd.

“I bobol sydd ag anhwylder gorfwyta mewn pyliau, gall fod yn ofidus iawn, iawn cerdded mewn i fwyty a chael y calorïau hynny wedi’u printio ar fwydlenni.”

Mae’r elusen wedi cyhoeddi llythyr agored yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried, ac wedi dechrau ymgyrch yn gofyn i bobol ddweud na wrth galorïau ar fwydlenni.

‘Corff bychan o dystiolaeth’

Ychydig iawn o dystiolaeth sy’n awgrymu bod rhoi calorïau ar fwydlenni yn arwain at bobol yn prynu llai o galorïau hefyd, yn ôl Jo Whitfield.

“Yn 2018, fe wnaeth yna astudiaeth yn America ddangos mai corff bychan o dystiolaeth ansawdd isel sy’n awgrymu bod rhoi calorïau ar fwydlenni yn arwain at ostyngiad yn faint o galorïau sy’n cael eu prynu,” meddai.

“Dangosodd astudiaeth fwy diweddar bod labelu calorïau ym mwytai cyflym yr Unol Daleithiau yn gysylltiedig â gostyngiad bach yn nifer y calorïau oedd yn cael eu prynu fesul archeb, ond fe wnaeth y gostyngiad ostwng ar ôl blwyddyn.

“Mae’n awgrymu nad yw unrhyw wahaniaeth bach fyddai hyn yn ei gael yn para yn y tymor hir.

“Rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ei wneud, yn hytrach nag ychwanegu calorïau i fwydlenni… mae angen i ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd ystyried iechyd meddwl pobol yn ogystal â’u hiechyd corfforol.

“Yn hytrach na chyflwyno agwedd at fwyta sy’n canolbwyntio ar gyfrif ac ymatal, dylen nhw bwysleisio newidiadau cadarnhaol i ymddygiad a rhoi hyder i bobol yn hytrach na gorfodi bwytai i roi calorïau ar fwydlenni.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth barhau i gydweithio ag ymgyrchwyr ac arbenigwyr ar anhwylderau bwyta hefyd er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu niweidio gan bolisïau iechyd.”

Ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y mater ar hyn o bryd, ac mae Beat wedi ysgrifennu canllawiau i helpu pobol sydd am wrthwynebu’r cam.

Mae’r elusen am gynnal grwpiau ffocws ar gyfer pobol sydd â phrofiad ag anhwylderau bwyta hefyd, a byddan nhw’n rhoi ymateb eu hunain i’r ymgynghoriad ar ôl casglu barn pobol.

“Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ystod o fesurau fel rhan o’r Amgylchedd Bwyd Iach, gan gynnwys cyflwyno calorïau ar fwydlenni,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gofyniad i leoliadau y tu allan i’r cartref sicrhau bod bwydlenni heb galorïau ar gael ar gais.

“Byddem yn annog pobol i ymateb i’r ymgynghoriad i ddweud eu dweud am y cynigion hyn.

“Er nad yw labelu’n orfodol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae rhai siopau eisoes wedi cyflwyno calorïau ar fwydlenni a gofynnwn i fwytai, lle bo modd, ddarparu bwydlenni nad ydynt yn cynnwys manylion calorïau ar gais.”