Mae Liz Saville Roberts yn arwain yr alwad ar Brif Weinidog nesa’r Deyrnas Unedig i fabwysiadu ei Bil fyddai’n ei gwneud hi’n drosedd i wleidyddion ddweud celwydd.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn un o nifer o wleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol sy’n awyddus i weld Bil y Cynrychiolwyr Etholedig (Gwahardd Twyll) yn dod i rym.

Cafodd ei gyflwyno ganddi fis diwethaf, a’i gefnogi gan naw aelod seneddol, gan gynnwys Caroline Lucas o’r Blaid Werdd, Richard Thompson o’r SNP, Wendy Chamberlain o’r Democratiaid Rhyddfrydol a Bell Ribeiro-Addy o’r Blaid Lafur.

Yng Nghymru, mae Hywel Williams a Ben Lake o Blaid Cymru a Beth Winter o’r Blaid Lafur wedi llofnodi’r llythyr.

Mae gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth yn destun ffrae rhwng yr ymgeiswyr i olynu Boris Johnson yn arweinydd y Ceidwadwyr, gyda Rishi Sunak yn dweud bod cynlluniau treth ei wrthwynebwyr yn “stori dylwyth teg” a Kemi Badenoch yn eu hannog i “ddweud y gwir”.

Does neb hyd yn hyn wedi cynnig mesurau i wella atebolrwydd ac i sicrhau bod gwleidyddion yn dweud y gwir.

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r ymgeiswyr i gyd yn pwysleisio pwysigrwydd ymddiriedaeth a gonestrwydd fel rhan o’u hymgyrchoedd i arwain y Blaid Geidwadol, gan alw arnyn nhw i fabwysiadu’r Bil os ydyn nhw o ddifrif am “gryfhau gwerthoedd tosturi, parch a gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth”.

Y llythyr

“Rydym yn ysgrifennu atoch chi fel noddwyr y Bil Cynrychiolwyr Etholedig (Atal Twyll), gan ein bod yn poeni’n fawr ynghylch tystiolaeth fod y cyhoedd yn ymddiried llai a llai mewn gwleidyddion,” meddai’r llythyr.

“Mae’r cwlwm hwn o ymddiriedaeth wedi’i erydu ymhellach gan ymddygiad nifer o ffigurau blaenllaw yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig y Prif Weinidog sydd ar ei ffordd allan.

“Mae perygl y bydd y diwylliant o ddiystyru’r rheolau sydd wedi cael datblygu o dan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y system wleidyddol gyfan.

“Mae’r gwirionedd a gonestrwydd yn rhan greiddiol o lywodraeth dryloyw a democrataidd, ac mae gwrthod cydnabod neu ymddiheuro am wneud datganiadau sy’n anghywir neu wrthod cywiro’r cofnod yn hynod niweidiol i’n democratiaeth.

“Fel y gwyddoch, efallai, mae’r Bil Cynrychiolwyr Etholedig (Atal Twyll) wedi’i gyflwyno yn y Senedd i fynd i’r afael â’r union fater hwn.

“Byddai’r Bil yn ei gwneud hi’n drosedd i gynrychiolwyr etholedig yngan unrhyw beth yn gyhoeddus maen nhw’n gwybod ei fod yn gamarweiniol, yn ffals neu’n dwyllodrus.

“Mae’r cyhoedd yn cefnogi’r mesur hwn, gyda phôl sydd wedi’i gynnal gan Compassion in Politics yn dangos bod 73% o bobol yn cefnogi cyflwyno’r fath gyfraith.

“Mae nifer ohonoch wedi cynnal ymddiriedaeth a gonestrwydd fel rhan allweddol o’ch ymgyrchoedd arweinyddol.

“Rydym yn cytuno bod rhaid adfer ffydd y cyhoedd yn ein system wleidyddol drwy gryfhau gwerthoedd tosturi, parch a gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth.

“Nawr yw’r cyfle i ddangos bod eich geiriau’n ystyrlon, ac i ymrwymo i fabwysiadu’r Bil Cynrychiolwyr Etholedig (Atal Twyll) os ydych yn llwyddiannus yn ras arweinyddol y Ceidwadwyr.”