Mae cynghorydd Plaid Cymru wedi cael ei wahardd o’i waith ar ôl iddo wneud sylwadau sarhaus am Saeson ar Facebook.
Bydd Jon Scriven, sy’n gynghorydd yng Nghaerffili, yn cael ei wahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal, meddai Plaid Cymru.
Mewn neges sydd bellach wedi cael ei dileu, dywedodd Jon Scriven, ei fod yn mynd i “Aberogwr heno i nofio’n sydyn a sicrhau nad oedd unrhyw Saeson yn ceisio croesi’r sianel”.
Roedd y neges, a oedd yn cynnwys llun o’r cynghorydd yn dal gwn, yn “amhriodol ac yn mynd yn groes i farn a gwerthoedd Plaid Cymru”, meddai llefarydd ar ran y blaid.
“Roedd yn iawn iddo ymddiheuro am unrhyw dramgwydd achoswyd,” meddai.
“Mae dyletswydd ar holl gynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru i gadw at y safonau uchaf mewn swydd gyhoeddus.
“Mae’r Cynghorydd Scriven wedi’i wahardd o’i waith wrth i ymchwiliad fynd rhagddi.”
‘Senoffobia at bobol Saesnig’
Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol alw ar Blaid Cymru i’w wahardd neithiwr (Awst 22).
Yn ôl y blaid, roedd y neges yn “arddangos senoffobia tuag at bobol Saesnig”.
“P’un ai’r bwriad oedd jôc neu beidio, mae’n gwbl amhriodol i swyddog etholedig wneud y fath sylwadau, pan ddylen nhw wybod yn well.
“Gyda chymaint o gasineb mewn gwleidyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, dylem fod yn ceisio codi pontydd, nid achosi rhagor o raniadau.”
Fe wnaeth Hefin David, Aelod o’r Senedd Llafur Caerffili, dynnu sylw at y neges hefyd a dweud nad oedd yn addas.
“Mae ein cymdeithas yn wynebu heriau anferthol,” meddai.
“Dylem ni fod yn trio uno a mynd i’r afael â phryderon gwirioneddol fel yr argyfwng costau byw.
“Ni fydd lapio eich hunain mewn fflagiau a chasáu pobol o’r tu allan yn helpu neb mewn angen.”