Mae hi’n “gwbl annerbyniol” peidio â chynnig taliad gwerth £650 i helpu â chostau byw i bobol ag anableddau, meddai Plaid Cymru.
£150 sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i bobol ag anableddau, er bod ymchwil yn dangos eu bod nhw ymysg y rhai fydd yn cael eu heffeithio waethaf gan yr argyfwng costau byw a chynnydd mewn costau ynni.
Mae Hywel Williams a Ben Lake, Aelodau Seneddol Plaid Cymru Arfon a Cheredigion, wedi galw am adolygiad brys i’r sefyllfa.
Mae’r ddau wedi ysgrifennu at Nadim Zahawi, Canghellor y Trysorlys yn San Steffan, a Thérèse Coffey, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, yn eu hannog i wneud mwy er mwyn amddiffyn aelwydydd incwm isel.
“Rydyn ni’n arbennig o bryderus am etholwyr sydd ag anableddau, er eu bod nhw ymysg y rhai sy’n debygol o ddioddef waethaf yn sgil costau cynyddol, dydyn nhw ddim yn gymwys am y Taliad Costau Byw gwerth £650,” meddai Ben Lake, llefarydd y Trysorlys Plaid Cymru yn San Steffan, a Hywel Williams, llefarydd Gwaith a Phensiynau’r blaid yn Llundain.
“Mae nifer o bobol ag anableddau angen lefelau uwch o ynni nag aelwydydd eraill gan eu bod nhw’n dibynnu ar offer fel cadeiriau olwyn ac awyryddion. Mae nifer yn dioddef gyda chyflyrau sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw aros yn gynnes a golchi eu dillad a dillad gwelyau yn rheolaidd.
“Dydy defnyddio llai o ynni ddim yn opsiwn i nifer o bobol ag anableddau.”
‘Dim cyfiawnhad’
Does yna ddim posib cyfiawnhau’r penderfyniad i hepgor pobol ag anableddau, a phobol sy’n derbyn budd-daliadau fel y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, meddai’r ddau.
“Rydyn ni’n galw arnoch chi i adolygu’r gofynion ar gyfer cymhwyso ar gyfer y taliadau hyn ar frys, a sicrhau bod pobol ag anableddau’n derbyn taliad costau byw sy’n adlewyrchu’r costau ychwanegol sydd ganddyn nhw o ddydd i ddydd ac effaith yr argyfwng ynni.
“Byddai methu â gwneud hynny yn golygu eich bod chi’n gwneud dim tra bod pobol ag anableddau’n cael trafferth dewis rhwng bwyta neu barhau i ddefnyddio offer sy’n eu cadw’n fyw.”