Mae cyn-gynghorydd ac ymgeisydd Seneddol UKIP o Sir Benfro wedi cael ei wahardd rhag dod yn gynghorydd eto am dair blynedd.

Fe wnaeth Panel Dyfarnu Cymru benderfynu anghymwyso Paul Dowson, a oedd yn arfer cynrychioli Doc Penfro ar Gyngor Sir Penfro, ddoe (Awst 22).

Roedd adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a gafodd ei ystyried gan Banel Dyfarnu Cymru, yn ymwneud â thair cwyn yn ei erbyn, gan gynnwys gwneud datganiadau ffals am gynghorwyr ac aelodau o’r cyhoedd.

Daeth y Panel i’r canlyniad bod Paul Dowson wedi torri Cod Ymddygiad Cyngor Sir Penfro ac wedi dwyn anfri ar ei swydd fel cynghorydd ac ar y Cyngor drwy:

  • Wneud datganiad ffals yn gyhoeddus ar ddau achlysur bod cynghorydd arall wedi ymddwyn yn anghyfreithlon drwy rannu fideo pornograffig. Roedd yr ymddygiad hwn yn gyfystyr â bwlio hefyd, meddai’r panel.
  • Datgan yn ffals ar gyfryngau cymdeithasol bod aelod o’r cyhoedd yn gyn-droseddwr oedd wedi’i garcharu am droseddau treisgar. Daeth y panel i’r casgliad bod hyn yn gyfystyr ag aflonyddu ar yr aelod o’r cyhoedd.
  • Postio gwybodaeth gamarweiniol am gwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Llywodraeth Cymru.
  • Awgrymu ar gyfryngau cymdeithasol bod aelod o’r cyhoedd ‘ar y gofrestr’, sy’n awgrymu’r gofrestr troseddwyr rhyw.
  • Ceisio camarwain yr Ombwdsmon yn fwriadol drwy ddarparu neges ffug oddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymchwiliad.

Ymgeisiodd Paul Dowson yn Etholiadau’r Senedd yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro y llynedd fel aelod o UKIP Scrap the Assembly.

‘Cwynion difrifol iawn’

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, eu bod nhw’n croesawu canlyniad y gwrandawiad.

“Roedd pob un o’r rhain yn gwynion difrifol iawn. Gallai’r honiadau a datganiadau ffug a wnaed gan y cyn-gynghorydd Dowson fod yn niweidiol a gallant andwyo enw’r unigolion dan sylw a’r Cyngor,” meddai.

“Mae’r penderfyniad i anghymwyso’r Aelod am 3 blynedd yn adlewyrchu difrifoldeb ei ymddygiad.

“Mae ein hymchwiliad a phenderfyniad Panel Dyfarnu Cymru yn dangos bod y gyfundrefn safonau moesegol mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn effeithiol o ran sicrhau bod y rhai sy’n torri’r safonau a ddisgwylir ganddynt yn cael eu dwyn i gyfrif er mwyn cynnal ymddiriedaeth a hyder mewn democratiaeth leol.

“Dyma ail ganlyniad gwrandawiad i ymddygiad y cyn Gynghorydd Dowson mewn misoedd.

“Ym mis Mehefin penderfynodd Cyngor Sir Penfro geryddu’r Aelod am ei sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol am y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys.

“Rydym yn credu ei bod yn bwysig tynnu sylw’r cyhoedd at ganlyniadau’r gwrandawiadau hyn, fel bod gwersi’n cael eu dysgu a bod etholwyr lleol yn gwbl ymwybodol y bydd eu cynrychiolwyr etholedig yn cael eu dal i gyfrif am dorri’r Cod Ymddygiad.”