Mae caffi ar droed yr Wyddfa yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond cau dros ŵyl y banc yn sgil diffyg llefydd parcio yn yr ardal.

Ers i Gyngor Gwynedd osod conau ar hyd ochr y ffordd er mwyn atal pobol rhag parcio yn Nant Gwynant ger Beddgelert, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu, meddai Paula Williams, perchennog Caffi Gwynant.

Wrth ystyried dyfodol hirdymor y caffi, byddan nhw’n cau dros y penwythnos gan nad ydyn nhw’n teimlo fel denu cwsmeriaid yno oni bai bod llefydd parcio.

Cafodd y conau eu gosod ddydd Gwener diwethaf (Awst 19), a chafodd Caffi Gwynant benwythnos “sâl iawn”, gyda gostyngiad o 67% mewn incwm ddydd Sadwrn a gostyngiad o 78% ddydd Sul.

‘Sefyllfa traffig ofnadwy’

Mae’r sefyllfa’n un “rhwystredig”, meddai Paula Williams, gan gydnabod nad oes ateb hawdd i’r sefyllfa.

Fodd bynnag, mae ymateb Cyngor Gwynedd wrth osod conau ar hyd ochrau’r ffyrdd ac atal pobol rhag parcio ar y gwair wedi “pwsio bobol i barcio mewn llefydd mwy peryglus”, ac wedi gwneud pethau’n waeth, meddai wrth golwg360.

“Ers ar ôl lockdown, mae’r sefyllfa traffig yn Nant Gwynant wedi bod yn ofnadwy,” meddai Paula Williams, sy’n rhedeg Caffi Gwynant ers 14 mlynedd.

“Pan oedd y sefyllfa’n ddrwg fyny ym Mhen-y-gwryd a Phen-y-pas fe wnaethon nhw wneud clearway yr holl ffordd ac arwyddion towio a ballu. Mae hynny wedi gwaethygu’n sefyllfa ni lawr yn fan hyn achos mae o wedi pwsio’r broblem lawr i Nant Gwynant.”

Yn aml iawn ar benwythnosau braf erbyn i Paula Williams gyrraedd ei gwaith am 8:30yb, does yna’r un lle i barcio ac mae’n rhaid iddi barcio ar y gwair.

“Wrth gwrs erbyn amser cinio mae pobol yn parcio yn bob man achos bod yna gymaint o bobol.

“Rydyn ni’n cymryd bookings i’r caffi ac mae pobol yn troi fyny’n hwyr, maen nhw’n troi fyny’n flin achos eu bod nhw wedi bod yn dreifio o gwmpas am ugain munud yn chwilio am le i barcio. Mae’r sefyllfa yn ddrwg.”

‘Penwythnos sâl’

Mae Paula Williams wedi bod mewn cyfarfodydd â Pharc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd, ac ym mis Mai fe wnaethon nhw gynnig atal pawb rhag parcio ar ochr y ffordd rhwng Pen y Gwryd a Llyn Dinas, sydd ychydig nes at Feddgelert na Chaffi Gwynant.

Fe wnaeth Caffi Gwynant wrthwynebu’r cynnig, a dywedodd y Cyngor wrthi na fyddan nhw gosod coniau pe bai gwrthwynebiad.

“Gaethon ni benwythnos ofnadwy o brysur pan oedd y tywydd poeth ofnadwy yna, mi roedd pobol fel chwain o gwmpas lle,” ychwanegodd Paula Williams.

“Roedd y Cyngor wedi rhoi lot o cones allan yn barod, ac roedd hynny’n gorfodi pobol i barcio mewn llefydd lle dw i erioed wedi gweld pobol yn parcio o’r blaen. Rhai ohonyn nhw, oedd, mi roedden nhw’n parcio mewn llefydd gwirion.”

Ddydd Gwener, cafodd conau eu gosod ar y ffordd rhwng Llyn Gwynant – sy’n uwch i fyny na Chaffi Gwynant – a thu allan i Feddgelert.

“Doedden ni ddim yn gwybod bod hyn yn digwydd, ddaethon ni mewn i’r gwaith bore dydd Sadwrn yn disgwyl diwrnod prysur gan ei bod hi’n wyliau haf.

“Roedd hi’n benwythnos rili, rili sâl i ni. Roedden ni’n gorfod talu bwyd, dydyn ni byth yn taflu bwyd.”

‘Meddwl dwywaith cyn bwcio’

Yn ôl Paula Williams, mae Cyngor Gwynedd wedi dweud mai trefniant arbrofol yw hwn ac y byddan nhw’n asesu’r sefyllfa dros y penwythnos.

“Wrth gwrs, mae yna lot o bobol yn mynd i fod o gwmpas ar y penwythnos – mae hi’n Ŵyl y Banc,” meddai Paula Williams.

“Roedden ni’n teimlo fel busnes ein bod ni methu gofyn i bobol fwcio byrddau a dod i fwyta yn y caffi achos bod yna ddim llefydd parcio.

“Os ydy pobol yn bwcio bwrdd, troi fyny am eu bwyd, a methu â chael rhywle i barcio, yn y dyfodol fyddan nhw’n meddwl ddwywaith cyn bwcio efo ni eto.

“Ar ôl penwythnos diwethaf, fedrwn ni ddim fforddio agor a pheidio bod yn brysur – mae gennym ni staff llawn amser i’w talu. Fedrwn ni ddim fforddio taflu bwyd i ffwrdd.

“Rydyn ni wedi gweithio’n andros o galed am 14 mlynedd. Rydyn ni’n teimlo ein bod ni wedi dod allan o Covid a bob dim, a rŵan rydyn ni’n gorfod cwffio yn erbyn hyn hefyd, ac efo costau byw a bob dim, o bosib fyddan ni’n mynd mewn i recession… Rydyn ni’n teimlo fel bod y Cyngor yn gwneud hyn ar yr amser anghywir.

“Rydyn ni’n cael lot o gwsmeriaid lleol yn cefnogi ni drwy’r flwyddyn, ond rydyn ni yn ddibynnol ofnadwy ar dwristiaeth.”

‘Cyfrifoldeb sicrhau diogelwch’

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i “sicrhau bod holl ffyrdd y sir yn ddiogel i fodurwyr, beicwyr a cherddwyr”.

“Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr nad oes dim byd yn atal y ffordd i fodurwyr, yn enwedig felly i gerbydau’r gwasanaethau brys,” meddai.

“Yn achos penodol Nant Gwynant, derbyniwyd nifer o gwynion gan drigolion, modurwyr a cherddwyr oedd yn pryderu’n arw am y sefyllfa barcio yn yr ardal.

“Trefnwyd i gwmni rheoli traffig gyflwyno mesurau dros dro ar ein rhan, sy’n cynnwys gosod conau ar ran arbennig o beryglus o’r ffordd pan rydym yn disgwyl iddi fod yn fwy prysur nag arfer dros ŵyl y banc. Nid ydi’r mesurau ychwanegol hyn wedi eu cyflwyno o flaen Caffi Gwynant.

“Bydd Swyddogion y Cyngor yn monitro addasrwydd y mesurau a gwneud newidiadau iddynt fel sy’n briodol. Mae’r Cyngor hefyd yn edrych ar gynllun hir dymor sydd yn ceisio mynd i’r afael a’r problemau parcio ac yn cyfarch dymuniadau pawb yn y gymuned.”