Mae helpu pobol ag anableddau dysgu i ddod o hyd i waith yn rhan allweddol o gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod nhw’n cael cyfle i fyw bywydau llawn ac annibynnol, yn ôl Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Bu’n siarad ddoe (dydd Mawrth, Awst 23) ar ôl cyfarfod â dyn o Gaerdydd sy’n dathlu carreg filltir yn ei waith.
Mae gan Harry Clements, 28, syndrom Down, ac mae’n gweithio yn Greggs yng Nghaerdydd, lle mae e newydd gwblhau pum mlynedd o gyflogaeth.
Mae’n un o’r cannoedd o bobol â syndrom Down sydd wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglen WorkFit y Gymdeithas Syndrom Down, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
“Roedd yn bleser cwrdd â Harry a’i gyflogwyr heddiw,” meddai Julie Morgan.
“Mae’n esiampl wych i eraill sydd ag anableddau dysgu.
“Mae cael y cyfle i gael swydd â chyflog yn hynod bwysig i bawb, o ran eu hunan-barch a byw bywyd annibynnol.
“Mae hyn yn elfen allweddol o gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredu ar Anabledd Dysgu, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
“Bydd cynlluniau fel rhaglen WorkFit yn darparu cyflogaeth, hyfforddiant a chymorth i bobol ag anableddau dysgu er mwyn eu helpu i ymuno â’r gweithle a pharhau’n rhan ohono.
“Bydd ein cynllun gweithredu hefyd yn creu mwy o gyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu i’w helpu i gael mynediad at gynlluniau prentisiaethau.”
‘Balch a hapus’
“Dw i wrth fy modd yn gweithio yn y swydd hon, mae’n gwneud imi deimlo’n falch ac yn hapus,” meddai Harry Clements.
“Dw i’n mwynhau gwisgo iwnifform a sgwrsio gyda’r cwsmeriaid a chwrdd â phobol newydd.
“Dw i’n edrych ymlaen at fynd i’r gwaith bob dydd ac ennill fy nghyflog fy hunan.
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Greggs, sydd wedi bod mor gefnogol tuag at raglen gyflogaeth Workfit Cymdeithas Syndrom Down,” meddai Julian Hallett, Rheolwr Datblygu Gwasanaethau Cymdeithas Syndrom Down.
“Dechreuodd ein cysylltiad â’r cwmni yn 2016, pan gawson ni’r cyfle i gyflwyno dyn ifanc i’w siop ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
“Ers hynny, mae’r rhaglen WorkFit wedi helpu 20 o bobol sydd â syndrom Down i gael gwaith yn siopau Greggs ar draws y de.”
‘Cyflogwr cefnogol a chynhwysol’
“Mae Greggs yn enghraifft wych o gyflogwr cefnogol a chynhwysol, ac mae wedi mabwysiadu dull gweithredu WorkFit yn llawn er mwyn datblygu cyfleoedd sy’n gallu newid bywydau drwy helpu pobol sydd â syndrom Down i gael gwaith ystyrlon,” meddai Alison Thwaite, Rheolwr WorkFit Cymdeithas Syndrom Down.
“Mae pobol â syndrom Down sy’n gweithio i Greggs yn dal swyddi â chyflog, lle maen nhw’n cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau drwy’r hyfforddiant sy’n cael ei roi gan y cwmni, ac maen nhw’n cymryd rhan lawn yn ei holl weithgareddau yn y gwaith ac yn gymdeithasol.
“Mae Harry’n esiampl wych o ba mor llwyddiannus y gallai hyn fod, gan ddangos y manteision i’r cyflogwr yn ogystal â’r sawl sy’n cael ei gyflogi.”
Ers lansio’r prosiect yn 2012, mae rhaglen Workfit wedi sicrhau cannoedd o gyfleoedd cyflogaeth i bobol sydd â syndrom Down.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grant o £278,484 tuag at eu gwaith yn 2022-25.
“Mae llwyddiant Harry fel aelod gwerthfawr o’r tîm yn Greggs ers pum mlynedd yn rhywbeth i’w ddathlu,” meddai Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.
“Mae’n esiampl bwerus sy’n dangos sut y gallai gweithleoedd cynhwysol sicrhau bod pawb yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen i wireddu eu potensial yn llawn.”