Mae Dr Dafydd Trystan Davies wedi’i ailbenodi’n gadeirydd Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Cafodd ei benodi’n gadeirydd annibynnol y Bwrdd Teithio Llesol ym mis Medi 2020 yn wreiddiol, a bydd yn parhau â’i waith o arwain y bwrdd yn ei rôl o gynghori a chefnogi gweinidogion Cymru ar weithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a chynyddu cerdded a beicio yng Nghymru.
“Rwy’n falch bod Dafydd Trystan Davies wedi’i ailbenodi’n Gadeirydd ein Bwrdd Teithio Llesol,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.
“Bydd yn parhau i ddod â chyfoeth o brofiad i’r rôl wrth hyrwyddo teithio llesol a chreu amodau yng Nghymru a fydd yn ei gwneud yn llawer haws, llawer mwy diogel a llawer mwy deniadol i lawer mwy o bobol gerdded a theithio ar feic bob dydd.”
“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi fy ailbenodi’n gadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol,” meddai Dr Dafydd Trystan Davies.
“Mae’r pandemig wedi bwrw ei gysgod dros ein gwaith dros y ddwy flynedd diwethaf, ond rwy’n hyderus, gyda’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu teithio llesol ledled Cymru ac ymgysylltu cadarnhaol gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, y byddwn yn gallu gwneud cryn gynnydd dros y ddwy flynedd nesaf.
“Nid yw’r argyfwng hinsawdd rydym yn ei wynebu yn mynnu dim llai.”