Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod y defnydd o fanciau bwyd yn arwydd o fethiant Llywodraeth San Steffan.
Daw hyn wrth i Aelod Seneddol Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd ac arweinydd y blaid yn San Steffan ymweld â banciau bwyd yn y Bermo a Phwllheli, sy’n rhan o’i hetholaeth.
Mae ffigurau diweddar yn dangos mai yng Nghymru mai’r gyfradd fwyaf o ran y defnydd o fanciau bwyd o blith gwledydd y Deyrnas Unedig, gyda 4,140 o barseli bwyd yn cael eu dosbarthu fesul 100,000 o’r boblogaeth.
Mae hi’n cyhuddo Llywodraeth Geidwadol San Steffan o anwybyddu’r argyfwng costau byw ac o fethu â chynnig ateb ystyrlon i dlodi ac anghydraddoldeb.
Mae cynlluniau ar y gweill i ehangu’r banc bwyd yn y Bermo fel bod yr adeilad yn troi’n gyfleuster cymunedol.
“Effaith enbyd” yr argyfwng costau byw
“Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith enbyd ar bobl yn fy etholaeth yn Nwyfor Meirionnydd a ledled Cymru,” meddai Liz Saville Roberts.
“Fel mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, mae nifer cynyddol o deuluoedd yn gorfod dewis rhwng bwyta neu cadw’n gynnes.
“Nid yw’n syndod mai Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o ddefnydd o fanciau bwyd yn y Deyrnas Unedig gyda 4,140 o barseli bwyd yn cael eu dosbarthu fesul 100,000 o bobol.
“Mae pobol yn troi at fanciau bwyd gan nad oes ganddyn nhw ddewis arall.
“O’r Bermo i Bwllheli yn fy etholaeth, mae banciau bwyd, a chynlluniau rhannu bwyd cymunedol yn achubiaeth i nifer cynyddol o bobol sy’n brwydro gyda chostau byw – a fydd ond yn gwaethygu wrth i’r argyfwng ddyfnhau.
“Does dim lle i fanciau bwyd ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain.
“Mae’n adlewyrchiad damniol o bolisïau economaidd a lles aflwyddiannus y Llywodraeth Dorïaidd hon bod cymaint o’n pobol fwyaf bregus bellach yn dibynnu ar haelioni dieithriaid am gymorth.
“Mae’n gwbl warthus bod yn rhaid i fanciau bwyd fodoli yn un o’r economïau mwyaf yn y byd – a bod y galw am y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu yn cynyddu.”
‘Arwyr di-glod’
Ond mae hi’n dweud bod y rhai sy’n rhedeg banciau bwyd yn “arwyr di-glod”, sy’n “gwneud gwaith anhygoel i helpu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymuned”.
“Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobol,” meddai.
“Bydd unrhyw rodd yn help mawr i fanc bwyd Bermo a Phwllheli sy’n darparu gwasanaeth mor bwysig i bobl leol mewn angen, drwy gydol y flwyddyn.
“Mae angen popeth ar bobol os ydyn nhw’n mynd i fanciau bwyd, nid hanfodion bwyd yn unig, maent angen hanfodion bywyd.
“Pethau fel past dannedd, cynhyrchion misglwyf, gel cawod yn ogystal â bwyd.”