Mae gan Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) y potensial i chwyldroi’r defnydd o ieithoedd lleiafrifol, yn ôl un academydd.
Dywed Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor fod sicrhau nad yw ieithoedd lleiafrifol yn cael eu hanwybyddu yn hanfodol wrth i Ddeallusrwydd Artiffisial barhau i ddatblygu.
Gall y dechnoleg sicrhau eu defnydd a’u ffyniant yn y byd digidol, meddai.
Mae Deallusrwydd Artiffisial ar fin newid “pob agwedd o’n bywydau beunyddiol” yn y pump i ddeng mlynedd nesaf, gan gynnwys y ffordd rydyn ni’n defnyddio iaith, medd arbenigwyr.
Bydd arbenigwyr mewn meysydd Deallusrwydd Artiffisial a thechnoleg ddigidol, ieithyddiaeth a chymdeithaseg ledled Ewrop yn dod ynghyd mewn digwydd ym Mhrifysgol Bangor fis Medi er mwyn trafod y chwyldro presennol a’r hyn sy’n digwydd ym maes technolegau iaith.
Ieithoedd ‘cyfoes’
Un o’r siaradwyr yn y digwyddiad ‘Technoleg a hawliau ieithyddol: edrych tua’r dyfodol’ yw Miriam Gerken, awdur adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Ysgrifenyddiaeth Cyngor Ewrop ar sut y bydd Deallusrwydd Artiffisial yn effeithio ymrwymiad y Cyngor i gefnogi ieithoedd lleiafrifol drwy eu Siarter Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol.
“Gall technolegau iaith a Deallusrwydd Artiffisial ddarparu symbyliad i warchod a hybu ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol,” esbonia Miriam Gerken.
“Bydd galluogi pobol i ddefnyddio ieithoedd lleiafrifol yn ddigidol, boed mewn swyddogaeth swyddogol, fel cwsmer neu i ymgysylltu ag eraill, yn fodd i ieithoedd llai eu defnydd barhau’n gyfoes ac yn rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol gwlad.
“Gall Deallusrwydd Artiffisial gyfrannu drwy sicrhau bod technolegau iaith fel cyfieithu peirianyddol, sgwrsfotiaid, synthesis llais a hyd yn oed is-deitlo awtomatig, sydd ei hangen i sicrhau bod fideos ar-lein yn cydymffurfio â safonau hygyrchedd, ar gael yn dewis ieithyddol pobol.
“Mae’r holl dechnolegau iaith hyn yn dibynnu ar ddata hyfforddi sydd yn cael ei brosesu gan ddefnyddio prosesu iaith naturiol (natural language processing neu NLP). Nod NLP yw datblygu rhaglenni gyda’r gallu i ddarllen, prosesu, dadansoddi ac yn y pendraw, deall iaith naturiol yn eu holl gymhlethdodau.
“Mae technolegau NLP yn cynnig posibiliadau diri ar gyfer defnyddio ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol yn y byd digidol, sef pam bod angen iddynt fod yn rhan o warchod ieithoedd heddiw.”
‘Heriau’n parhau’
Mewn ffordd, mae’r Gymraeg mewn sefyllfa gref, “yn enwedig o gymharu ag ieithoedd lleiafrifol eraill”, meddai Dr Cynog Prys, sy’n trefnu’r digwyddiad.
“Mae technolegau iaith Gymraeg yn ein galluogi i ddefnyddio Cymraeg yn y sffêr digidol, ond mae heriau yn dal i fodoli tra bod y cynnig digidol yn gynyddol soffistigedig.
“Golyga’r ffaith nad yw’r sector breifat yn cael ei gynnwys o dan ddeddfwriaeth Cymraeg presennol fod canran helaeth o’n bywydau digidol, sydd yn cael eu defnyddio gan siaradwyr Cymraeg, yn parhau i fod ar gael drwy Saesneg yn unig.
“Yr her ganolog ar gyfer technolegwyr iaith Gymraeg a’r gwneuthurwyr polisi yw canfod datrysiadau technolegol i’r broblem.”
Bydd y digwyddiad di-dâl yn cael ei gynnal ar Fedi 9, a bydd yn cynnwys arddangosfa o’r technolegau diweddaraf a bydd sgyrsiau gan rai o dechnolegwyr blaenllaw Ewrop.