Mae pôl diweddar yn dangos y byddai cefnogaeth i annibyniaeth ar gynnydd yng Nghymru pe bai Liz Truss yn dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Mae’r pôl gan YouGov yn dangos y byddai cefnogaeth yn neidio o 25% ar hyn o bryd i 28% pe bai Rishi Sunak yn dod yn Brif Weinidog, ond i 30% pe bai Liz Truss yn fuddugol.

Canlyniadau tebyg oedd yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban hefyd, wrth i’r pôl ddangos y byddai cefnogaeth i aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig yn yr Alban yn gostwng o 51% i 48% gyda Liz Truss wrth y llyw.

Trafferth i’r Alban

Mae Liz Truss eisoes wedi dweud y byddai hi’n mynnu bod yr Undeb yn mynd o nerth i nerth pe bai hi’n fuddugol.

Mewn dadl yn Perth yn yr Alban, fe wnaeth hi wfftio refferendwm arall ar annibyniaeth i’r Alban gan ddweud na fydd hi byth yn gadael i’r Alban adael “ein teulu”.

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan ei chyd-ymgeisydd ceidwadol, Rishi Sunak.

“Rwy’n ystyried fy hun yn blentyn i’r undeb ac i mi nid dim ond cymdogion ydyn ni, rydyn ni’n deulu,” meddai Liz Truss wrth y gynulleidfa.

“Ni fyddaf byth yn gadael i’n teulu gael eu gwahanu.”

‘Rydyn ni’n un’

Liz Truss sydd ar y blaen yn ôl pôl gan YouGov gyda 66% o’r bleidlais, gan adael Rishi Sunak gyda 34%.

Mae hyn yn ei rhoi 32 pwynt ar y blaen wrth i’r ras gyrraedd ei therfyn.

Ond nid dim ond pobol gyffredin sydd wedi bod yn rhoi eu barn.

Wrth ysgrifennu ar Twitter ac yn y Daily Mail, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi datgan y bydd yn cefnogi Liz Truss oherwydd ei record ar yr Undeb.

Wrth ysgrifennu ar y cyd â Stephen Kerr, prif chwip Grŵp Ceidwadwyr yr Alban a Matthew Robinson, cadeirydd Ceidwadwyr Gogledd Iwerddon, dywedodd fod “record Liz ar yr Undeb yn berffaith”.

“Cafodd ei magu yn Paisley ac mae ei pherthynas â’n Deyrnas Unedig gyfan yn glir,” meddai.

“Nid yn unig mae Liz wedi dangos y cryfder a’r dewrder angenrheidiol a fydd yn allweddol i sicrhau nad ydym yn dawnsio i dôn Brwsel, ond hefyd yr hyblygrwydd a’r dyfeisgarwch i ddod o hyd i ddewis arall ymarferol a’i gyflwyno.

“Mae Liz yn deall os yw Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ffynnu, felly hefyd yr Undeb.

“Ac rydyn ni’n gwybod os yw’n gwneud yn dda, felly hefyd ein cenhedloedd – rydyn ni’n un ac yr un fath.”