Dylai pobol sy’n ymweld â safleoedd naturiol poblogaidd dros Ŵyl y Banc barchu’r amgylchedd a meddwl am y bobol leol, yn ôl cynghorwyr a chyrff amgylcheddol.

Yn ôl Kim Jones, cynghorydd Llanberis, mae’r cyfleusterau yno ac maen nhw’n barod ar gyfer nifer yr ymwelwyr maen nhw’n eu disgwyl dros y penwythnos.

Bu trafferthion yn ystod y cyfnodau o dywydd poeth yn ddiweddar, pan heidiodd “cannoedd” o bobol ifanc yno i drochi yn Llyn Padarn.

Ond, mae’r trafferthion diweddar gyda pharcio a sbwriel yn golygu eu bod nhw wedi paratoi at un o benwythnosau prysuraf y flwyddyn.

“Mae yna bryder, achos yn amlwg dyma’r penwythnos olaf cyn i bobol fynd yn ôl i’r ysgol,” meddai Kim Jones, sy’n cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, wrth golwg360.

“Dw i’n pryderu’n fwy na dim o ran y tywydd, os ydy hi am fod yn ofnadwy o boeth yma yn Llanberis mae hi’n mynd i fod yn orlawn o ran y bobol sydd am ymgynnull wrth ochr Y Glyn [ardal ger Llyn Padarn] i badlfyrddio, caiacio, a mynd am dro o gwmpas y llyn.

“Dw i wedi bod mewn cyswllt rheolaidd efo Parc Padarn, ac mae yna fesurau mewn lle. Mae yna fwy o finiau wedi cael eu rhoi yn y Glyn.

Kim Jones, cynghorydd Plaid Cymru ward Llanberis a Nant

“Rydyn ni wedi bod yn cael trafferth efo pobol yn parcio yn anghyfrifol ar y junction fel ti’n dod mewn i Lanberis, ac mae cones wedi cael eu gosod.

“Mae pobol angen cymryd cyfrifoldeb, mae yna dros ddeg maes parcio yn Llanberis – mae yna le. Does yna ddim angen i bobol fod yn parcio ar linellau melyn ac mewn caeau, mae’n wirion.

“Ond fel arall, dw i’n meddwl ein bod ni’n ocê, dw i’n meddwl ein bod ni’n prepared ar gyfer nifer yr ymwelwyr sydd am ddod dros Ŵyl y Banc achos rydyn ni wedi cael gymaint o drafferthion yn ddiweddar o ran sbwriel a pharcio yn fwy na dim byd.”

Mae staff diogelwch yn y Glyn o 5yp tan hanner nos, a byddan nhw’n cadw golwg am bobol yn gwersylla’n wyllt a phobol yn cynnau tanau efo barbeciws untro hefyd.

“Mae Spar, chwarae teg, yn Llanberis wedi stopio gwerthu disposable barbeciws achos un, maen nhw mor beryg, a dau, maen nhw’n achosi gymaint o sbwriel yn ochrau’r Glyn felly rydyn ni’n annog pobol i beidio cynnau tân a pheidio gwneud disposable barbeciws a jyst mynd i wario mewn caffis a ballu,” meddai Kim Jones wedyn.

‘Meddwl am y bobol leol’

Cyngor Kim Jones i bobol sy’n bwriadu ymweld â’r ardal ydy i drefnu ymlaen llaw, dod â digon o arian parod gan nad ydy pob maes parcio’n cymryd cerdyn, ac i roi sbwriel mewn biniau neu fynd â’r llanast adref efo nhw.

“Dylai pobol ddod ddigon buan fel bod yna le iddyn nhw barcio, a [fyswn i’n] annog pobol sydd eisiau defnyddio’r ardal i gaiacio a ballu i beidio â pharcio ar linellau melyn,” meddai.

“Dw i’n gwybod bod pobol yn parcio yna achos bod meysydd parcio eraill, efallai, ychydig bach yn rhy bell i gario stwff ond os maen nhw’n dod ddigon buan fydd yna le mewn lle parcio yno.

“Mae’r toiledau ar agor, mae yna dri adeilad toiled cyhoeddus yn Llanberis – un yn y Glyn, un ger y llyn, ac un ym Maes Padarn. Mae’r un ger y llyn ar agor 24 awr.

“Fyswn i’n dweud wrth bobol gymryd ychydig bach o gyfrifoldeb a pharch. Mae bob dim yn Llanberis fwy neu lai am ddim, dydyn nhw ddim yn gorfod talu i barcio yn y Glyn ar y funud, mae’r toiledau am ddim, ac mae’r llyn am ddim – felly ychydig bach o barch.

“Felly, trefnu cyn dod a meddwl am y bobol leol.”

Parchu’r amgylchedd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw ar bobol i warchod a pharchu’r amgylchedd yn ystod y penwythnos hefyd, ac maen nhw’n disgwyl niferoedd uchel o ymwelwyr i safleoedd fel Coedwig Niwbwrch ar Ynys Môn.

Wrth baratoi i groesawu ymwelwyr, maen nhw’n atgoffa pobol bod hi’n goedwig weithredol ac yn gartref i ystod eang o rywogaethau gwarchodedig.

Coedwig Niwbwrch, un o safleoedd mwyaf poblogaidd Cyfoeth Naturiol Cymru

Dywed John Taylor, Arweinydd Tîm ar gyfer safleoedd hamdden yng ngogledd-orllewin Cymru, fod rhaid cael cydbwysedd rhwng dymuniadau unigolion i fwynhau’r awyr agored a’r cyfrifoldebau i warchod natur a pharchu cymunedau lleol.

“Trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad, gall pobl ymweld â’n safleoedd gwych yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ddiogel, gan gynnwys Niwbwrch, Parc Coed y Brenin a Pharc Coedwig Gwydir,” meddai.

“Rydyn ni’n disgwyl nifer uchel o ymwelwyr y penwythnos yma a gall hyn arwain at dagfeydd a nifer cyfyngedig o lefydd parcio.

“Felly, rydym yn annog pobol i fod â chynllun wrth gefn rhag ofn y bydd cyrchfan yn rhy brysur neu i ystyried ymweld ag un o’n lleoliadau tawelach.

“Mae hefyd yn bwysig i fynd â sbwriel adref, cadw cŵn dan reolaeth i amddiffyn adar sy’n nythu a mathau eraill o fywyd gwyllt, a pheidio cynnau tanau.

“Rydym hefyd am atgoffa ymwelwyr nad oes hawl i unrhyw un aros dros nos ar ein safleoedd.

“Mae mwyafrif llethol y bobol sy’n ymweld â’n safleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol a hoffem ddiolch iddynt am wneud eu rhan. Gobeithio y bydd hynny’n parhau wrth i ni nesáu at benwythnos Gŵyl y Banc.”

Bydd wardeiniaid yn patrolio yn Niwbwrch dros y penwythnos i ateb unrhyw gwestiynau, a rhoi cyngor ac arweiniad i ymwelwyr.

Pryder a siom am y sefyllfa a’r llanast yn Llanberis ar ôl i “gannoedd” o bobol ifanc heidio yno

Cadi Dafydd

“Mae o’n torri calon rhywun gorfod mynd yna i lanhau gymaint o sbwriel ar ôl pobol leol”