Mae dathliadau annibyniaeth wedi cael eu gwahardd yn Wcráin yr wythnos hon yn sgil y perygl y gallai Rwsia saethu rocedi yn y wlad.

Mae’n 31 o flynyddoedd ddydd Mercher (Awst 24) ers i Wcráin adael yr Undeb Sofietaidd a rheolaeth ormesol Rwsia.

Mae’r awdurdodau yn y brifddinas Kyiv wedi gwahardd digwyddiadau torfol, ralïau a chynulliadau eraill rhwng heddiw (dydd Llun, Awst 22) a dydd Iau (Awst 25), yn ôl dogfen sydd wedi’i chyhoeddi.

Mae pryderon y gallai Rwsia “drio rhywbeth hyll” i geisio tawelu’r dathliadau, yn ôl lluoedd arfog Wcráin, a hynny chwe mis union ers dechrau’r rhyfel.

Yn ôl Volodymyr Zelenskyy, arweinydd Wcráin, mae nifer o arweinwyr a sefydliadau gwleidyddol y byd, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, wedi cael eu rhybuddio ynghylch yr hyn allai ddigwydd yn y wlad yr wythnos hon.

Mae adroddiadau bod Twrci wedi ceisio sicrhau trafodaethau rhwng Wcráin a Rwsia, ond na fu’n “ymarferol” cynnal cyfarfod rhwng Zelenskyy a Vladimir Putin, arweinydd Rwsia.