Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Aberystwyth i drafod pryderon am ddiogelwch dŵr mewn bloc o fflatiau.

Mae tenantiaid Fflatiau’r Tabernacl wedi bod yn cwyno am ansawdd dŵr yr adeilad ers tua phedair blynedd, gyda rhai yn cwyno am ddiffyg egni, diffyg cwsg, a niwl ar yr ymennydd.

Ers i’r cwyno ddechrau, mae Dŵr Cymru wedi dweud bod ansawdd y dŵr yn cael ei effeithio gan ddŵr o beiriannau golchi dillad ac mae nifer o falfiau wedi cael eu gosod i drio atal dŵr y peiriannau golchi dillad rhag llifo i’r cyflenwad dŵr oer. Mae’r pryderon yn deillio o broblem gyda phlymwaith fewnol yr adeilad, yn hytrach na’r cyflenwad allanol.

Ond dros y misoedd diwethaf, mae ansawdd y dŵr wedi gwaethygu ac yn ôl y tenantiaid mae yna ddrewdod yn dod o’r cyflenwad bob yn hyn a hyn, a gronynnau duon yn nŵr y bath.

Cymdeithas Dai Barcud sy’n berchen ar y Tabernacl a’r 22 fflat yn yr adeilad, ac maen nhw wedi bod wrthi’n trio dod o hyd i ddatrysiad ac wedi gosod ffilterau dŵr yng nghyflenwad dŵr rhai fflatiau. Mae ôl-groniad o ronynnau duon wedi casglu ers gosod y ffilterau hynny.

‘At wraidd y broblem’

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ar lawr gwaelod y fflatiau nos Wener (Awst 26), ac mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, Dŵr Cymru, Cyngor Ceredigion, a Chymdeithas Dai Barcud, wedi cael gwahoddiad.

Mae’r problemau hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers rhy hir o lawer, meddai Dafydd Morgan, trefnydd y cyfarfod.

“Mae hi’n amser mynd at wraidd y problemau hyn,” meddai.

“Os yw unrhyw un o’r preswylwyr lleol wedi bod yn dioddef y symptomau hyn, bydden ni wrth ein boddau yn eich gweld yn y cyfarfod cychwynnol hwn.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gymdeithas Dai Barcud am ymateb.