Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am adolygiad o’r gyfraith ar isafswm pris unedau alcohol, yn dilyn yr hyn maen nhw’n ei alw’n ganlyniadau negyddol anfwriadol.
Daw hyn ar ôl i astudiaeth awgrymu nad yw cyflwyno’r fath gamau’n arwain at lai o yfed ymhlith cwsmeriaid mwy bregus, fod yr isafswm pris yn arwain pobol tuag at gyffuriau rhad ar y stryd gan achosi cannoedd o farwolaethau, fod pobol sy’n gaeth i alcohol yn ei brynu ar draul talu biliau ynni a phrynu bwyd, ac ar ôl i Aelodau Llafur Cydweithredol o’r Senedd gael eu cyhuddo o ragrith am gefnogi’r gyfraith tra bod siopau Co-op yn hyrwyddo alcohol rhad ar-lein.
Maen nhw hefyd yn dweud bod y defnydd o alcohol wedi cynyddu 5% yn yr yfwyr trymaf yn yr Alban ers i’r isafswm gael ei gyflwyno, a bod pryderon bod pobol ifanc yn cael eu gwthio tuag at gyffuriau rhad o ganlyniad i gyflwyno’r isafswm pris ar gyfer alcohol.
Mae 16 allan o’r 30 Aelod Llafur o’r Senedd yng Nghymru hefyd yn cynrychiolwyr Cydweithredol, a nifer ohonyn nhw’n aelodau o Gabinet Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Vaughan Gething (Economi), Jeremy Miles (Addysg a’r Gymraeg) a Lynne Neagle (Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl).
Cam nad yw’n “lleihau yfed trwm”
“Fe ddaeth yn gynyddol amlwg fod isafswm pris alcohol Llafur yn arwain at lu o ganlyniadau anfwriadol, o wthio pobol tuag at gymryd cyffuriau i aberthu gwres a bwyd, tra ei fod ar yr un pryd yn methu â chyflawni’i union bwrpas sef gyrru yfed trwm i lawr,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Fe wnaethon ni rybuddio’r Llywodraeth Lafur ar y pryd y gallai gwthio’r gyfraith hon drwodd heb derfyn amser na chamau diogelu arwain at lu o ganlyniadau negyddol, ond cawsom ein hanwybyddu.
“Dydyn ni ddim yn gweld digon o graffu ôl-ddeddfwriaethol yn y Senedd ac rwy’n credu, o ystyried y dystiolaeth rydym yn ei gweld o’r Alban, fod angen i ni ailymweld â’r gyfraith yng Nghymru i brofi a yw’n addas ar gyfer ei phwrpas trwy adolygiad o’r isafswm pris ar unedau alcohol.”