Mae bron i 1,000 o blant wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn Wcráin ers i’r rhyfel ddwysau chwe mis yn ôl, yn ôl Achub y Plant.
Rhwng Chwefror 24 ac Awst 10, cafodd o leiaf 942 o blant eu lladd neu eu hanafu, sy’n cyfateb i bum plentyn bob dydd ar gyfartaledd, gyda 356 o blant wedi colli eu bywydau a 586 wedi’u hanafu, yn ôl gwybodaeth ddiweddaraf Swyddfa’r Uwch Gomisiynydd dros Hawliau Dynol.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae’r cyfanswm yn debygol o fod yn llawer uwch a dydy union oedran yr holl blant ddim eto ar gael, ond roedd y rhan fwyaf o’r plant yn byw mewn ardaloedd dinesig a phoblog.
Yn ôl adroddiadau gan swyddogion, roedd bomio di-baid yn ninas Kharkiv, oedd unwaith yn llawn bwrlwm, wedi difrodi mwy na 600 o adeiladau yn ystod mis cynta’r rhyfel, gan gynnwys meithrinfeydd, ysgolion a chanolfannau iechyd.
Fe wnaeth Dana, 29, a’i merch ddyflwydd oed, Antonina, ffoi o Kharkiv fis Mawrth, ond cyn iddyn nhw lwyddo i ddianc o’r ddinas roedden nhw’n cuddio mewn selar wrth i sŵn y seirenau udo uwch eu pennau.
“Roedd yn gallu clywed yr holl ffrwydradau ac roedd arni ofn; doedd hi ddim yn gallu cysgu,” eglura Dana, wrth siarad am ei merch fach.
“Pan mae’n clywed synau tebyg yma, mae’n holi ‘Beth yw’r bŵm uchel yna’?
“Gyda phlentyn sydd ddim ond yn ddwy a hanner oed, alla i ddim esbonio iddi fod yna ryfel yn mynd ymlaen a bod plant yn marw. Mae’n rhy fach.”
Yn hytrach, mae Dana yn dweud wrth ei merch mai sŵn taranau mae’n eu clywed. Ond nid yw hyn yn taro deuddeg gyda’i nithoedd a’i neiaint sy’n hŷn ac yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.
“Maen nhw yn holi lot o gwestiynau,” meddai.
“Mae un o fy neiaint yn naw oed ac mae’n holi, “Ydw i yn mynd i farw hefyd?”
“Mae ei rieni yn ceisio eu gorau i ddewis y geiriau iawn wrth ei ateb.
“Mae fy nith bum oed yn holi, ‘Pan fydda i yn tyfu i fyny, a fydda i dal yn rhedeg i’r cyntedd pan fydd seiren? Felly maen nhw yn deall [nad yw hyn yn normal].”
Mae plant ym mhob rhan o’r wlad yn tyfu i fyny ar y rheng flaen mewn ardaloedd sy’n cael eu defnyddio fel meysydd y gad, gan arwain at farwolaethau ac anafiadau erchyll, a difrodi’r rhwydweithiau sydd eu hangen i allu derbyn hanfodion fel bwyd a dŵr.
Mae lle i gredu bod tua thair miliwn o blant wedi cael eu dadleoli yn fewnol o fewn Wcráin.
‘Plant sy’n cael eu heffeithio fwyaf’
“Er nad oes gan blant yn Wcráin unrhyw beth i’w wneud gyda’r rhyfel, nhw sy’n cael eu heffeithio fwyaf,” meddai Sonia Khush, Cyfarwyddwr Achub y Plant yn Wcráin.
“Maen nhw yn tyfu i fyny yn sŵn bomiau a ffrwydradau, ac yn tystio eu cartrefi yn cael eu dinistrio a’u ffrindiau ac aelodau o’u teuluoedd yn cael eu lladd neu eu hanafu.”
Er bod dinasoedd ar draws y wlad ar reng flaen y rhyfel, mae timau Achub y Plant yn gweld gweithredoedd o garedigrwydd a gwytnwch ar draws y wlad.
Yn Bucha, er enghraifft, mae’r gymuned wedi dod at ei gilydd i ailadeiladu man chwarae i’r plant.
“Mae plant angen mwy na chymorth dyngarol, ac maen nhw angen gobaith y bydd y rhyfel yma yn dod i ben ac y gallen nhw ddychwelyd adref a gobaith am ddyfodol gwell,” meddai Sonia Khush.
“Heb gymorth ac oedi i’r gwrthryfela, mae yna bryder y bydd Wcráin yn troi i fod yn fynwent i fywydau ond hefyd i obeithion a dyheadau y plant i’r dyfodol.”
Mae Dana ac Antonina erbyn hyn yn byw yn Dnipro ble mae Achub y Plant yn eu cefnogi gydag anghenion cartref sylfaenol a bwyd, a hynny drwy bartner lleol, Pomogaem.
Mae Dana yn gobeithio dychwelyd i Kharkiv mis nesaf os yw’n saff i wneud hynny, ond mae ei ffrindiau a’i theulu wedi eu gwasgaru ar draws y wlad, yn byw lle bynnag maen nhw’n gallu cael lloches ers i’r rhyfel ddechrau chwe mis yn ôl.
“Rydym yn byw un dydd ar y tro, a dyna fo,” meddai.
“I ni mae fel, dydyn ni ddim wedi dod yma [i Dnipro] ac ry’n ni yn mynd i aros yma yn barhaol.
“Yn fy achos i, mae’n fater o rydyn ni am fynd adref.”
Mae’r elusen yn condemnio ymosodiadau ar ddinasyddion a’r rhwydweithiau mewnol, yn cynnwys ysgolion ac ysbytai, a’r defnydd o daflegrau ac arfau eraill sy’n achosi marwolaethau ac anafiadau difrifol ac yn torri rheolau dyngarol rhyngwladol.
Mae Achub y Plant wedi bod yn gweithio yn Wcráin ers 2014, yn cyflenwi cymorth dyngarol i blant a’u teuluoedd.
Mae miliynau o blant a’u teuluoedd hefyd wedi’i gorfodi i ffoi o’u cartref i wledydd sy’n ffinio ac i wledydd eraill yn Ewrop.
O ganlyniad i’r argyfwng yn Wcráin , mae nifer o blant hefyd wedi symud i gymunedau ar draws Cymru, a thrwy gymorth partneriaid ar lawr gwald mae tîm Achub y Plant yng Nghymru yn gallu cynnig cymorth iddyn nhw mewn gwahanol ffyrdd.
Ymateb yng Nghymru’n “anhygoel”
“Ry’n ni’n gwybod fod miliynau o deuluoedd wedi gorfod gadael popeth ac rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ac elusennau eraill i ddosbarthu Pecynnau Croeso gyda gwybodaeth a chyngor ar sut i gael mynediad i wasanaethau cymorth lleol,” meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru.
“Rydym hefyd wedi bod yn cynnig hyfforddiant ar-lein am ddim i weithwyr y rheng-flaen a gwirfoddolwyr er mwyn datblygu eu sgiliau a gwybodaeth ar sut i allu cefnogi ffoaduriaid.
“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel gyda dros 160 o bobl o bob cwr o Gymru yn mynychu yr hyfforddiant hyd yma, yn cynnwys athrawon ac ymarferwyr iechyd.
“Rydyn ni hefyd wedi gallu cefnogi teuluoedd gyda’n cynllun grantiau argyfwng er mwyn eu helpu i brynu pethau fel teganau a llyfrau i helpu gydag addysg eu plant a nwyddau cartref fel gwelyau, cotiau, peiriant golchi a bwrdd bwyd.
“Dros y chwe mis diwethaf rydym wedi gweld enghreifftiau o blant ar draws y byd yn defnyddio eu lleisiau i eirioli ar ran plant o Wcráin.
“Fel rhan o’r prosiect Plentyn-i-Blentyn rydym wedi bod yn gweithio gyda phlant mewn ysgolion yng nghymoedd y de i rannu eu realaeth, eu geiriau a’u ffotograffau fel bod gwneuthurwyr penderfyniadau yn gwrando ac yn gweithredu newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau.
“Bydd negeseuon gan ddisgyblion yn yr ysgolion yn cael eu rhannu gyda phlant yn Wcráin a’r gwledydd cyfagos gyda’r nod o helpu plant i deimlo cysylltiad â’r undod a’r gefnogaeth sydd ganddynt gan blant ar draws y byd.”