Mae 26 o chwaraewyr wedi cael eu henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd y Merched yn 2023.
Bydd Jess Fishlock a Charlie Estcourt yn dychwelyd i garfan Gemma Grainger ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad Groeg a Slofenia.
Fydd Esther Morgan na Hannah Cain ddim ar gael oherwydd anafiadau hirdymor.
Bydd ennill pedwar pwynt o’r ddwy gêm yn sicrhau lle Cymru yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf.
‘Iddi hi’
I gyd-fynd â’r ymgyrch, mae’r artist rap Juice Menace wedi rhyddhau trac arbennig, ‘FOR HER’.
Mae’r trac yn canolbwyntio ar neges sydd wedi cael ei defnyddio gan garfan Cymru ‘I Ni, Iddyn Nhw, Iddi Hi’ er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr a chydnabod dylanwad cyn-chwaraewyr rhyngwladol.
“Mae’n fraint cael gwahoddiad i weithio ar y gân hon, dw i’n gobeithio fy mod i wedi creu cân sy’n gallu ymbweru merched ifanc a menywod dros Gymru a thu hwnt, cân ‘Iddi Hi’ ydy hi,” meddai Juice Menace.
“Mae popeth am y tîm a phêl-droed menywod yng Nghymru yn gyffrous iawn ar y funud a dw i’n hapus fy mod i ynghlwm â’r holl beth.
“Mae’r tîm wedi bod mor ysbrydoledig drwy gydol yr ymgyrch, a dw i’n gobeithio y gall y gân helpu Cymru a’r Wal Goch i gyrraedd y lefel nesaf yn yr ymgyrch gymhwyso hon pan fyddan nhw’n wynebu Gwlad Groeg a Slofenia.”
Y dorf fwyaf hyd yn hyn
Bydd Cymru’n teithio i Volos yng Ngwlad Groes ddydd Gwener nesaf (Medi 2), cyn croesawu Slofenia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 6.
Bydd o leiaf 8,500 o dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm honno, sy’n record ar gyfer gêm y merched.
Ond mae Gemma Grainger a’r tîm yn gobeithio y bydd dros 10,000 o’r Wal Goch yn y gêm ac yn chwarae rhan allweddol wrth i Gymru geisio creu hanes.
Carfan Cymru
Laura O’Sullivan (Merched Caerdydd), Olivia Clark (Bristol City), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Josie Green (Caerlŷr), Hayley Ladd (Manchester United), Gemma Evans (Reading), Rachel Rowe (Reading), Lily Woodham (Reading), Sophie Ingle (Chelsea), Anna Filbey (Crystal Palace), Angharad James (Tottenham Hotspur), Georgia Walters (Sheffield United), Charlie Estcourt, Jess Fishlock (OL Reign), Carrie Jones (Caerlŷr – ar fenthyg o Manchester United), Ffion Morgan (Bristol City), Megan Wynne (Southampton), Elise Hughes (Crystal Palace), Kayleigh Green (Brighton & Hove Albion), Helen Ward (Watford), Natasha Harding (Aston Villa), Ceri Holland (Lerpwl), Maria Francis-Jones (Sheffield United – cytundeb deuol gyda Manchester United), Chloe Williams (Blackburn Rovers – cytundeb deuol gyda Manchester United), Morgan Rogers (Watford).