Bydd cyn-beldroediwr Cymru, Ryan Giggs, yn mynd o flaen y llys eto flwyddyn nesaf ar gyhuddiad o ymosod ar ei gyn-gariad.
Fe wnaeth y rheithgor yn yr achos gwreiddiol fethu â dod i ddyfarniad ar ôl trafod am bron i 23 awr.
Mae cyn-chwaraewr Manceinion Unedig, 48, yn gwadu cyhuddiadau o reoli ei gyn-gariad Kate Greville drwy orfodaeth ac ymosod arni hi a’i chwaer.
Clywodd y llys fod eu perthynas wedi dirywio yn ystod cyfyngiadau Covid-19, a bod yna “ganlyniadau” pe na bai Katie Greville yn gwneud yr hyn roedd Ryan Giggs yn gofyn iddi ei wneud.
Yn ôl Ryan Giggs, doedd e byth yn ymosodol tuag ati, a dywedodd ei gyfreithwyr fod yr honiadau’n “gelwydd” ac yn “orddweud”.
Roedd gan Wasanaeth Erlyn y Goron wythnos i benderfynu a fyddai ail achos yn cael ei gynnal, ac mae disgwyl i hwnnw ddechrau ar Orffennaf 31 2023.