Mae’n debyg y bydd Aaron Ramsey yn methu gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn ddiweddarach y mis hwn.

Aeth y chwaraewr canol cae i ffwrdd gyda phroblem llinyn y gar wrth i Nice gael eu trechu gartref yn erbyn AS Monaco ddydd Sul diwethaf.

Mae hyfforddwr Nice, Lucien Favre, wedi dweud bod Ramsey, 31, yn debygol o fod allan am dair wythnos.

Bydd Cymru yn chwarae oddi cartref yn erbyn Gwlad Belg ar Fedi 22, cyn herio Gwlad Pwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar dridiau’n ddiweddarach.

Bydd absenoldeb Ramsey yn ergyd enfawr i reolwr Cymru, Robert Page, sydd ar fin cyhoeddi ei garfan ar gyfer y ddwy gêm ddechrau’r wythnos nesaf.