Mae gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd yn debygol o orffen yn gyfartal, ar ôl i rannau sylweddol o’r trydydd diwrnod gael eu colli i’r glaw a golau gwael.

Mae’r sir Gymreig yn cwrso dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor, ac mae ganddyn nhw bedair gêm i gyflawni hynny, gan gynnwys yr un hon yng Ngerddi Sophia.

Ond roedd Morgannwg wedi chwarae un gêm yn llai o’u cymharu â’u gwrthwynebwyr cyn yr ornest hon, ac fe fydd sicrhau o leiaf gêm gyfartal a phwyntiau bonws yn hanfodol gyda chyn lleied o bwyntiau’n gwahanu’r timau tua’r brig.

Ar ddiwedd y dydd, roedd Morgannwg yn 241 am wyth, ar ei hôl hi yn eu batiad cyntaf o 213 o rediadau.

Gyda’r rhagolygon yn addo rhagor o dywydd garw ar y diwrnod olaf, bydd Morgannwg yn gobeithio am ychydig o gymorth.

Manylion y dydd

Ar ôl dechrau’r trydydd diwrnod ar 107 am ddwy, collodd Morgannwg gyfres o wicedi cyflym yn ystod awr gynta’r bore.

Cafodd y noswyliwr Timm van der Gugten ei ddal gan y wicedwr Ben Cox oddi ar fowlio Joe Leach am 18, cyn i Dillon Pennington gipio dwy wiced mewn dwy belen, gan fowlio Sam Northeast cyn i Kiran Carlson gael ei ddal yn y slip gan Ed Pollock – oddi ar belen gynta’i fatiad am yr ail waith yn erbyn Pennington eleni – i adael Morgannwg yn 146 am bump.

Daeth hanner canred cyntaf Shubman Gill yn ei fatiad cyntaf i’r sir, oddi ar 87 o belenni wrth i Billy Root ymuno â fe ben draw’r llain gyda blaenoriaeth yr ymwelwyr yn dal i fod ychydig yn llai na 300.Ychydig iawn o griced gafwyd wedyn cyn i’r glaw ddod, gan orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae am ginio cynnar ac er iddyn nhw geisio dychwelyd, daeth y glaw trwm ganol y prynhawn gan achosi oedi hir a chanslo archwiliad am 2.45yp.

Cafodd yr archwiliad hwnnw ei gynnal am 3.20yp a phenderfynodd y dyfarnwyr y byddai’r gêm yn ailddechrau am 4 o’r gloch, gyda 36 o belawdau’n weddill yn y dydd.

Ychydig belawdau gymerodd hi i Swydd Gaerwrangon gipio wiced, wrth i Ben Gibbon daro Billy Root ar ei goes o flaen y wiced i adael Morgannwg yn 189 am chwech.

Ychwanegodd Shubman Gill a Chris Cooke 41 am y seithfed wiced, cyn i Ed Barnard daro’r batiwr o India ar y goes o flaen y wiced am 92, a Morgannwg yn 230 am saith cyn i olau gwael orfodi’r chwaraewyr oddi ar y cae am hanner awr.

Erbyn iddyn nhw ddychwelyd am 5.50yh, naw pelawd oedd yn weddill o’r diwrnod, a chafodd James Harris ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Dillon Pennington am bump oddi ar belen ola’r dydd.