Mae Palas Buckingham wedi cyhoeddi datganiad ynghylch iechyd Brenhines Lloegr, gan ddweud ei bod hi am aros yn Balmoral am y tro.

Daw hyn wrth i wleidyddion edrych yn bryderus wrth i nodyn gael ei basio i arweinwyr sawl plaid yn San Steffan heddiw (dydd Iau, Medi 8).

“Yn dilyn gwerthusiad pellach fore heddiw, mae meddygon Y Frenhines yn poeni am iechyd Ei Mawrhydi ac wedi argymell ei bod hi’n aros o dan oruchwyliaeth feddygol,” meddai’r datganiad gan y palas.

“Mae’r Frenhines yn parhau’n gyfforddus, ac yn Balmoral.”

Mae aelodau’r teulu wedi teithio i Balmoral.

Wrth i’r stori ddatblygu, mae’r BBC wedi dileu eu hamserlen am weddill y dydd ac mae Huw Edwards wedi dechrau cyflwyno rhaglen newyddion arbennig.

Dymuniadau gorau

Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhoeddi neges yn dymuno’n dda iddi.

Dyma neges Mark Drakeford “ar ran pobl Cymru”.

Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda, hefyd wedi disgrifio’r awyrgylch yn San Steffan yn dilyn y cyhoeddiad.

A dyma ymateb Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, a Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn sgil y newyddion.