Graham Potter, cyn-brif hyfforddwr Clwb Pêl-droed Abertawe, yw prif hyfforddwr newydd Chelsea.

Mae’n gadael Brighton, lle cafodd ei benodi yn 2019 ar ôl un tymor gyda’r Elyrch ar ôl iddyn nhw ostwng o’r Uwch Gynghrair i’r Bencampwriaeth.

Mae’n gadael Brighton yn y pedwerydd safle yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae’r Sais, sy’n hanu o ganolbarth Lloegr, wedi llofnodi cytundeb pum mlynedd i olynu’r Almaenwr Thomas Tuchel a gafodd ei ddiswyddo’r wythnos hon.

Dechreuodd yr hyfforddwr 47 oed ei yrfa wrth y llyw yn Ostersunds yn Sweden, ac mae ei ddull deniadol o chwarae pêl-droed wedi dal sylw’r byd pêl-droed, nid lleiaf pan oedd e yn Stadiwm Liberty wrth i’r Elyrch ddechrau ar gyfnod o ailadeiladu.

Y tymor diwethaf yn Brighton, fe arweiniodd e’r tîm i’w safle uchaf erioed yn yr Uwch Gynghrair.

“Dw i’n eithriadol o falch a chyffrous o gael cynrychioli Clwb Pêl-droed Chelsea, y clwb pêl-droed gwych hwn,” meddai.

“Dw i wedi cyffroi’n fawr o gael bod yn bartner i grŵp perchnogion newydd Chelsea, ac yn edrych ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda’r grŵp cyffrous o chwaraewyr a datblygu tîm a diwylliant y gall ein cefnogwyr anhygoel fod yn falch ohonyn nhw.

Dywed Todd Boehly, cadeirydd Chelsea, fod Graham Potter “wedi profi ei hun” fel hyfforddwr a’i fod e’n “arloeswr sy’n gweddu i’n gweledigaeth ar gyfer y clwb”.

Mae lle i gredu y bydd Billy Reid, ei ddirprwy brif hyfforddwr yn Abertawe, yn symud gyda fe i Stamford Bridge.