Bydd tîm pêl-droed merched Cymru’n herio Bosnia a Herzegovina gartref yn rownd gyntaf gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2023.

Bydd y gêm honno’n cael ei chynnal ar Hydref 6, gyda’r amser a’r lleoliad i’w cadarnhau.

Y Swistir, oddi cartref, fydd gwrthwynebwyr yr enillwyr yn yr ail rownd bum niwrnod yn ddiweddarach ar Hydref 11.

Sicrhaodd tîm Gemma Grainger eu lle yn y gemau ail gyfle yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Slofenia yng Nghaerdydd nos Fawrth (Medi 6).

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het yn y Swistir.