Mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon wedi’u gohirio dros y penwythnos yn dilyn marwolaeth Elizabeth II, Brenhines Lloegr – gan gynnwys gemau pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru.
Cyhoeddodd y Teulu Brenhinol ei bod hi wedi marw ddoe dydd Iau (Medi 8).
Yn dilyn yn newyddion, mae nifer o awdurdodau chwaraeon wedi penderfynu gohirio gemau dros y dyddiau nesaf – penderfyniad sydd wedi ennyn cryn feirniadaeth, gyda rhai yn dadlau y gellid fod wedi talu teyrnged gyda munud o dawelwch, ac eraill yn dweud bod cefnogwyr yn cael eu cosbi’n ariannol.
Mae cyrff chwaraeon wedi cael rhyddid i benderfynu drostyn nhw eu hunain os ydyn nhw am gynnal digwyddiadau.
Yn ôl y canllawiau swyddogol ar gyfer galaru, does dim rhaid i unrhyw ddigwyddiad gael ei ganslo.
Bydd yr holl gemau pêl-droed yng Nghymru ar bob lefel rhwng Medi 9-12 yn cael eu gohirio, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n dweud y bydd diweddariadau maes o law am y cyfnod tu hwnt i hynny.
Mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr, yn ogystal â’r Uwch Gynghrair, wedi gohirio eu gemau dros y penwythnos hefyd.
Mae sawl camp arall wedi dilyn yr un trywydd.
Mae gêm brawf criced Lloegr yn erbyn De Affrica bellach wedi’i gohirio, y gystadleuaeth seiclo Tour of Britain wedi’i chanslo yn gyfangwbl, a’r chwarae wedi’i atal ar ddiwrnod cyntaf pencampwriaeth golff y PGA.
Hyd yma, dyw Cymdeithas Bêl-droed Cymru heb gyhoeddi a fydd gemau’n cael eu cynnal y penwythnos hwn.
Bydd timau criced ar lawr gwlad yn cael penderfynu sut i dalu teyrnged, ac mae Criced Cymru yn eu hannog i fwrw ymlaen â gemau a chynnal munud o dawelwch.