Mae gan dîm criced Morgannwg gêm yn erbyn Middlesex yn dechrau yn Lord’s heddiw (dydd Llun, Medi 12) a allai fod yn dyngedfennol wrth benderfynu pwy fydd yn ennill dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

Mae Morgannwg yn ail a Middlesex yn drydydd, gyda dau dîm yn gallu codi o’r Ail Adran ar ddiwedd y tymor a dim ond saith pwynt rhyngddyn nhw ar hyn o bryd.

Cafodd y sir Gymreig gêm gyfartal yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, wrth i’r tywydd ddirwyn y gêm i ben yn gynnar.

Un sydd wedi cadw ei le yn y garfan yw’r batiwr Tom Bevan, sydd heb chwarae mewn gêm dosbarth cyntaf i’r sir o’r blaen, ac mae Shubman Gill, y batiwr o India, a’r troellwr llaw chwith Ajaz Patel o Seland Newydd, yn paratoi i chwarae eu hail gêm i’r sir ar ôl ymuno am ran ola’r tymor yn absenoldeb yr Awstraliaid Marnus Labuschagne a Michael Neser, a’r batiwr Colin Ingram.

Gemau’r gorffennol

Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae yn y Bencampwriaeth yn Lord’s ers 2018, pan mai dim ond 58 o belawdau gafodd eu bowlio dros y pedwar diwrnod oherwydd y tywydd, wrth i Michael Hogan gipio pum wiced mewn batiad am yr unfed tro ar hugain yn ei yrfa, gyda’r Iseldirwr Timm van der Gugten hefyd yn cipio tair wiced am bedwar rhediad mewn saith pelen.

Roedd Morgannwg yn fuddugol ar y cae hanesyddol yn 2010 a 2011, serch hynny, wrth i James Harris gipio wyth wiced yn yr ail o’r gemau hynny, gyda chanred i Ben Wright ac 87 Will Bragg yn sicrhau bod Morgannwg yn fuddugol o naw wiced.

David Harrison, yr is-hyfforddwr presennol, a Huw Waters wnaeth y ddifrod yn 2010 wrth i Forgannwg ennill o 78 rhediad.

Cyn hynny, doedd Morgannwg ddim wedi ennill yn Lord’s ers y 1950au, wrth iddyn nhw ennill o 22 rhediad yn 1954 ac o 131 o rediadau yn 1952 o dan gapteniaeth Wilf Wooller.

‘Bydd yr hogiau’n barod amdani’

“Mae o’n gae gwych a phob tro rydych chi’n mynd yno, rydych chi eisiau perfformio, gan eich bod chi’n chwarae ar un o’r caeau gorau yn y byd,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.

“Mae o’n cael yr adrenalin i fynd, ac yn eich paratoi chi ar gyfer y gêm beth bynnag.

“Does dim ots os oes yna 500 o bobol yno, 5,000 neu 25,000. Mae o jyst yn lle arbennig i chwarae criced.

“Bydd yr hogiau’n barod amdani.

“Mae gynnon ni rywfaint o wybodaeth o ran lle gallai’r llain fod, felly rydan ni wedi cael sgwrs am hynny, a sut mae’r hogiau’n mynd i baratoi ar gyfer hynny.

“Rydan ni’n edrych ymlaen at yr her.

“Os cawn ni ganlyniad da yn y gêm hon, mi fydd o’n mynd yn bell wrth benderfynu pwy fydd ochr yn ochr â Swydd Nottingham yn y ras am ddyrchafiad i’r Adran Gyntaf.”

Carfan Middlesex: T Murtagh (capten), E Bamber, S Eskinazi, R Higgins, M Holden, L Hollman, I Kaushal, P Malan, S Robson, T Roland-Jones, M Stoneman, J Simpson, R White

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), T Bevan, E Byrom, K Carlson, C Cooke, S Gill, A Gorvin, J Harris, M Hogan, S Northeast, A Patel, B Root, T van der Gugten

Sgorfwrdd: https://www.espncricinfo.com/series/county-championship-division-two-2022-1310355/middlesex-vs-glamorgan-1297775/live-cricket-score