Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gofyn i gefnogwyr “adael eich barn bersonol wrth gatiau’r Cae Ras”, ar drothwy munud o dawelwch er cof am Frenhines Lloegr.

Bydd y Gynghrair Bêl-droed a’r Gynghrair Genedlaethol yn talu teyrnged cyn pob gêm nos Fawrth (Medi 13), yn dilyn ei marwolaeth yr wythnos ddiwethaf yn 96 oed.

Maen nhw wedi gofyn i glybiau ddangos parch drwy gynnal munud o dawelwch, i chwaraewyr wisgo bandiau du am eu breichiau, i faneri gael eu cyhwfan ar eu hanner ac i God Save the King gael ei chanu.

Bydd Wrecsam gartref yn erbyn Dagenham & Redbridge, Abertawe gartref yn erbyn Sheffield United, Caerdydd oddi cartref ym Middlesbrough a Chasnewydd oddi cartref yn Stevenage.

“Mae gennym ni gais syml, waeth beth yw eich barn bersonol, yr ydym yn cydnabod fod gan bawb hawl iddyn nhw; ar yr achlysur hwn, gadewch y rhain wrth gatiau’r Cae Ras a pheidiwch â defnyddio’r funud o dawelwch i hybu eich safbwyntiau eich hun dros rai pobol eraill,” meddai’r neges ar wefan Clwb Pêl-droed Wrecsam.

“Mae’r goleuni ar y clwb yn fwy disglair nag erioed a hynny mewn ffordd eithriadol o bositif, felly gadewch i ni beidio â rhoi rheswm i neb weld y clwb mewn unrhyw ffordd arall, drwy beidio â pharchu’r funud o dawelwch.

“Mae’r clwb yn gobeithio y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth wrth barchu’r funud o dawelwch.”