Llwyddodd y Cymro James Harris, cyn-fowliwr cyflym Middlesex, i achub Morgannwg ar ddiwrnod cynta’u gêm Bencampwriaeth yn Lord’s, wrth i’r sir Gymreig frwydro am ddyrchafiad i’r Adran Gyntaf y tymor nesaf.

Pan oedd Middlesex yn 90 am un, wrth ymateb i 214 Morgannwg, cipiodd Harris dair wiced heb ildio rhediad mewn naw pelen i adael y Saeson yn 92 am bedair.

Bu’n rhaid i Mark Stoneman achub ei dîm ben draw’r llain, ac roedd Middlesex yn 132 am bedair pan ddaeth y golau gwael â therfyn i’r chwarae am y dydd.

Tarodd Chris Cooke 52 i Forgannwg wrth i Ryan Higgins gipio pedair wiced am 59 rhediad yn ei gêm gyntaf yn ôl yn Lord’s ar ôl dychwelyd o Swydd Gaerloyw, a chipiodd y wicedwr John Simpson bum daliad.

Manylion

Collodd Morgannwg ddwy wiced yn nwy belawd gynta’r gêm, wrth i Eddie Byrom gael ei ddal gan Simpson oddi ar fowlio Tim Murtagh, cyn i Toby Roland-Jones fowlio’r capten David Lloyd i adael Morgannwg yn naw am ddwy.

Cafodd Shubman Gill ei ollwng ar wyth gan Murtagh oddi ar ei fowlio’i hun, ond daeth batiad batiwr rhyngwladol India i ben ar 22 pan gafodd ei fowlio gan Roland-Jones oddi ar ymyl isa’r bat.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Murtagh ddarganfod ymyl bat Sam Northeast hefyd, a hwnnw wedi’i ddal gan Simpson, a chafodd Billy Root ei ddal gan Simpson oddi ar fowlio Higgins i adael Morgannwg yn 70 am bump.

Ar ôl i Chris Cooke a Kiran Carlson frwydro’n ddewr, cafodd Carlson ei ddal gan Simpson oddi ar fowlio Murtagh i ddod â phartneriaeth o 59 i ben.

Cyrhaeddodd Cooke ei hanner canred oddi ar 80 o belenni cyn i Higgins daro coes Harris o flaen y wiced, gyda Cooke allan bedair pelen yn ddiweddarach pan gafodd ei fowlio gan Ethan Bamber oddi ar ei fat.

Cipiodd Morgannwg bwynt batio wrth i Ajaz Patel, chwaraewr amryddawn Seland Newydd, daro 36 cyn i Higgins orffen gyda phedair wiced am 59.

Batiad Middlesex

Arweiniodd Mark Stoneman y ffordd i Middlesex gyda chyfres o ergydion ar ôl colli ei bartner agoriadol Sam Robson, a gafodd ei ddal yn isel yn y slip gan Gill oddi ar fowlio Michael Hogan, ond doedd y batiwr ddim yn hapus â’r penderfyniad.

Goroesodd Stevie Eskinazi waedd am ddaliad gan y wicedwr oddi ar ei belen gyntaf cyn i Harris ddangos pa mor beryglus yw e fel bowliwr.

Cafodd Eskinazi ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am 31, cyn i Harris fowlio Pieter Malan.

Cafodd Max Holden ei ddal yn y slip oddi ar ei belen gyntaf gan Sam Northeast, a llwyddodd Simpson i oroesi pelen yr hatric wrth iddo fe a Stoneman sefydlogi’r batiad rywfaint.

Lord's

Morgannwg yn teithio i Lord’s i herio Middlesex mewn gêm Bencampwriaeth a allai fod yn dyngedfennol

Mae Morgannwg yn ail a Middlesex yn drydydd, gyda dau dîm yn gallu ennill dyrchafiad i’r Adran Gyntaf ar ddiwedd y tymor