Mae Rob Page wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd fel rheolwr tîm pêl-droed dynion Cymru.

Daeth yn rheolwr dros dro yn 2020, ac ers hynny mae e wedi sicrhau lle Cymru yng ngrŵp A Cynghrair y Cenhedloedd, cyrraedd rownd 16 olaf yr Ewros, a chreu hanes wrth i Gymru ennill eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Cyn arwain y tîm cenedlaethol, Rob Page oedd rheolwr y tîm dan 21 oed, a bu’n gweithio â rhai o sêr y tîm fydd yn gobeithio gwneud argraff yn Qatar fis Tachwedd, gan gynnwys Dan James, Joe Rodon, Joe Morrell a Chris Mepham.

‘Braint fwyaf fy mywyd’

Dywed Rob Page ei bod hi’n “anrhydedd enfawr rheoli fy ngwlad, braint fwyaf fy mywyd”.

“Rwy’n edrych ymlaen at yr her sydd i ddod dros y pedair blynedd nesaf, gan ddechrau efo ein Cwpan y Byd gyntaf ers 64 mlynedd,” meddai.

“Rwy’n gobeithio y gallwn ni rhoi gwên ar wynebau ein cefnogwyr ym mis Tachwedd ac adeiladu ar y llwyddiant trwy gyrraedd mwy o bencampwriaethau Ewro a Chwpan y Byd yn y dyfodol.”

‘Y person gorau’

Dywed Steve Williams, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ei fod e wrth ei fodd fod Rob Page a’r Gymdeithas wedi cytuno ar gytundeb pedair blynedd.

“Mae Cwpan y Byd FIFA yn gyfle perffaith i ddangos Cymru ar lwyfan y byd, a dw i’n sicr mai Rob yw’r person gorau ar gyfer y rôl, yn Qatar a thu hwnt,” meddai.

Ychwanegodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, fod gan gynllun strategol y Gymdeithas Ein Cymru, amcanion clir ar gyfer tîm y dynion, a’i fod yn hyderus mai Rob Page yw’r person gorau i sicrhau mwy o lwyddiant dros y pedair blynedd nesaf.

“Drwy osod y sylfaeni cywir, dw i’n siŵr y byddwn ni’n gweld Rob a’r tîm yn cymhwyso ar gyfer mwy o bencampwriaethau mawr yn y dyfodol agos ac yn parhau i gynyddu’r positifrwydd a’r gefnogaeth sydd ynghlwm â phêl-droed Cymru ar y funud,” meddai.

Bydd Rob Page yn troi tuag at baratoi ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd, yn ogystal â gemau Cynghrair y Cenhedloedd nawr, wrth i Gymru wynebu Gwlad Belg ym Mrwsel ar Fedi 22 a Gwlad Pwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 25.