Mae proses ymgeisio rhaglen datblygu awduron Cynrychioli Cymru 2023-24 bellach ar agor.
Yn ei thrydedd flwyddyn, bydd y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan awduron sydd yn byw yng Nghymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n ysgrifennu ar gyfer plant a phobol ifanc.
Mae’r rhaglen blwyddyn o hyd yn cynnig gwobr ariannol o hyd at £3,300 i helpu’r awduron i ganolbwyntio ar eu gyrfaoedd ysgrifennu.
Dros y flwyddyn, byddan nhw’n derbyn sesiynau mentora un-i-un, sgyrsiau a gweithdai gan awduron llwyddiannus, cyfleoedd rhwydweithio ar-lein ac mewn gwyliau a llawer mwy o gyfleoedd i ddatblygu eu hysgrifennu a’u gwybodaeth o’r byd llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.
Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Diffyg cynrychiolaeth ddigonol
Mae trydydd rhifyn rhaglen Cynrychioli Cymru yn dilyn rhaglen agoriadol lwyddiannus wedi’i hanelu at awduron o liw.
Roedd yr ail rifyn wedi’i anelu at awduron o gefndiroedd incwm isel.
Yn 2023-24, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer plant a phobol ifanc, er mwyn helpu i fynd i’r afael â diffyg cynrychiolaeth ddigonol mewn llyfrau plant a’r cymeriadau mewn llyfrau plant a phobol ifanc.
Maen nhw’n awyddus i dderbyn ceisiadau o bob cwr o Gymru, gan gynnwys ardaloedd gwledig a cheisiadau o’r gorllewin, y canolbarth a’r gogledd.
Byddan nhw’n cynnal tri gweithdy ysgrifennu creadigol ar-lein yn rhad ac am ddim yn ystod y cyfnod cyn y dyddiad cau er mwyn cynnig cefnogaeth greadigol ac ymarferol i ymgeiswyr a blas ar sut beth fyddai cymryd rhan yn y rhaglen.
Am fwy o wybodaeth am y sesiynau hyn ac i gofrestru, cliciwch yma.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 o’r gloch ddydd Mawrth, Hydref 25.