Bydd un o aduniadau mwyaf anghyffredin Gwesty Aduniad yn cael ei ddangos yr wythnos hon.

Pobol sy’n dod ynghyd ar y gyfres fel arfer, ond heno (nos Fawrth, Medi 13), bydd teulu bardd buddugol Eisteddfod Bentref Waunfawr 1948 yn uno â’r gadair eisteddfodol.

Daethpwyd o hyd i’r gadair yn Warws Werdd, sef prosiect ailgylchu dodrefn a dillad sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon.

Mae’r Warws, sy’n gwerthu amrywiaeth o ddodrefn a dillad ail law, yn rhan o waith Antur Waunfawr, sef menter gymdeithasol sy’n darparu cyfleoedd iechyd a lles, gwaith a hyfforddiant i unigolion ag anableddau dysgu yng Ngwynedd.

Cafodd y gadair ei hadnewyddu gan artist o Fethesda, Cefyn Burgess, yn barod i ddodrefnu byngalo ysbaid Antur Waunfawr, llety sy’n rhoi seibiant i bobol ag anableddau dysgu a’u teuluoedd.

Roedd y gadair wedi cael ei gorchuddio â lledr du cyn y gwaith adnewyddu.

Cefyn Burgess a Chadair Eisteddfod Bentref Waunfawr 1948

Cadair Emyr Jones

Eleni, aed ati i geisio dod o hyd i hanes y gadair, a daeth i’r amlwg mai Emyr Jones, Tŷ’n Ceunant, Waunfawr oedd enillydd y gadair yng Nghapel Bethel, sef safle’r byngalo a chartref presennol y gadair.

Yn dilyn cyfnod yn y fyddin, aeth Emyr Jones i Goleg Normal Bangor i hyfforddi i fod yn athro a bu’n brifathro yn Ysgol Betws-yn-Rhos ger Abergele.

Thomas Arthur Thomas, un o bartneriaid Thomas & Thomas, oedd yn gyfrifol am gerfio’r gadair yng ngweithdy’r cwmni yn Nghroesywaun, Waunfawr.

Heno, bydd y gadair yn ymddangos ar Gwesty Aduniad, pan fydd merch ac wyres bardd y gadair, Bethan Wainwright a Samantha Roberts o Gaernarfon, yn cael ei gweld hi am y tro cyntaf wedi iddi gael ei hadnewyddu.

  • Gwesty Aduniad ar S4C heno (Medi 13) am 9yh.