Bydd Caerfyrddin yn troi’n fôr o goch, gwyn a gwyrdd y penwythnos hwn, wrth i ysgolion a chymunedau ddathlu Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

Wedi tair blynedd hir o ddisgwyl, mae Sir Gaerfyrddin yn barod i groesawu Eisteddfod yr Urdd 2023.

Yn draddodiadol byddai Gŵyl Gyhoeddi yn ddathliad un diwrnod, wrth i ysgolion y Sir ddod at ei gilydd i orymdeithio drwy dref neu bentref. Ond nid eleni.

Dros yr wythnos nesaf bydd dwy orymdaith a llu o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal, wrth i Bwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2023 sicrhau cyfle i bawb i ymuno yn yr hwyl.

Bydd y dathliad cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn (Medi 17), wrth i filoedd o blant a phobol ifanc yr ardal orymdeithio drwy dref Caerfyrddin.

Am 11yb, bydd miloedd o blant a phobol ifanc leol yn gorymdeithio drwy’r dref tuag at y parc, gan estyn croeso cynnes i Eisteddfod yr Urdd i’r ardal.

Wedi’r orymdaith, bydd dathliad yn y parc i’r teulu cyfan gan gynnwys stondinau, chwaraeon, dawnsio ac adloniant byw.

Nos Sadwrn (Medi 17) am 8yh, bydd gig gyda Fflur Dafydd ac Einir Dafydd yng Nghlwb y Cwins, Caerfyrddin, a bydd Cymanfa Ganu arbennig yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman am 6yh nos Sul.

Ail orymdaith

Mae Pwyllgor Gwaith Sir Gaerfyrddin hefyd wedi trefnu ail orymdaith yn Llanymddyfri i gloi’r Ŵyl ar Fedi 24, sef y dref fydd yn croesawu Maes yr Eisteddfod, gan estyn croeso a chyfle i bawb i ymuno yn y dathlu.

Ynghanol y cyffro, bydd cyfle arbennig i dynnu llun ar Fainc Hunlun Mistar Urdd i nodi’r achlysur.

Mae hyn yn gyfle i blant a phobol ifanc Sir Gaerfyrddin gymryd rhan yng nghystadleuaeth Hunlun Mistar Urdd i drio ennill ymweliad gan y fainc i dref neu bentref lleol.

I gystadlu yn y gystadleuaeth, y cyfan sydd angen ei wneud yw postio llun o’r fainc ar dudalen gymdeithasol gan gofio nodi #HunlunMistarUrdd.

“Am y tro cyntaf erioed bydd ail orymdaith yn cael ei chynnal i gloi’r Ŵyl Gyhoeddi ar ddydd Sadwrn 24ain o Fedi yn Llanymddyfri,” meddai Carys Edwards, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2023.

“Rydym yn awyddus iawn i sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc yn Sir Gâr yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r Ŵyl arbennig hon; ac felly yn gwahodd pawb i fod yn rhan o’r Ŵyl Gyhoeddi, ar draws y Sir gyfan.

“Mae cyffro mawr yn tyfu ar hyd y Sir wrth i ni agosáu at groesawu Eisteddfod yr Urdd 2023 i’r ardal.

“Edrychwn ymlaen at ddathlu cyhoeddiad yr Ŵyl, a chroesawu Urdd Gobaith Cymru i Sir Gâr dros yr wythnos nesaf.”

‘Diolch’

Ar drothwy’r Ŵyl Gyhoeddi, mae Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau yn diolch i’r gwirfoddolwyr.

“Nid ar chwarae bach mae trefnu a chynnal Gŵyl Gyhoeddi nac Eisteddfod,” meddai.

“Ar ran yr Urdd hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Gwaith, i’r plant a phobol ifanc a’r holl wirfoddolwyr yn eu cymunedau am eu hymroddiad ar ôl yr holl brysurdeb yn dewis testunau, trefnu gweithgareddau a chasglu arian er mwyn croesawu a chynnal Eisteddfod yr Urdd 2023 i Sir Gaerfyrddin.

“Fel Mudiad rydym yn edrych ymlaen at ddathlu Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin gan weld holl blant a phobol ifanc yr ardal yn gorymdeithio – nid unwaith, ond dwywaith – yn ystod yr Ŵyl.

“Ac wrth gwrs byddwn yn cyhoeddi Rhestr Testunau yr Eisteddfod, fydd yn faes llafur cyffrous i ganghennau’r Urdd drwy Gymru gyfan.”

Am restr lawn neu fwy o wybodaeth, ewch i wefan Urdd Gobaith Cymru neu ddilyn tudalen Facebook Eisteddfod yr Urdd.