Mae tair ffilm fer o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr LHDTC+ ‘y Gorau ym Mhrydain’.
Bydd Gŵyl Ffilm Gwobr Iris, sy’n ddathliad o ffilmiau LHDTC+ sy’n cael ei gynnal yn flynyddol, yn dychwelyd i Gaerdydd rhwng Hydref 11 ac 16.
Mae 15 o ffilmiau byrion ar y rhestr fer, a dyma fydd y tro cyntaf i Ŵyl Iris gael ei chynnal yn y cnawd ers 2019.
Angharad Mair fydd yn cyflwyno’r noson agoriadol, pan fydd chwe ffilm fer newydd sydd wedi cael eu creu yng Nghymru yn cael eu dangos am y tro cyntaf.
Skinny Fat gan y cyfarwyddwr Mathew David; Nant gan Tom Chetwode Barton; a Jelly gan Samantha O’Rourke ydy’r tair ffilm o Gymru sydd ar restr fer ‘y Gorau ym Mhrydain’, a gefnogir gan Film4.
Y ffimiau eraill ar y rhestr fer:
Home Bird wedi’i chyfarwyddo gan Caleb Roberts
The Piss Witch gan Jason Barker
Keep off the Grass gan Francis Rudd
Silence gan TJ O Grady Peyton
Fluorescent Adolescent gan Charlie Sharp
Tommies gan Brian Fairbairn a Karl Eccleston
Hornbeam gan Mark Pluck
A Fox in the Night gan Keeran Anwar Blessie
Jim gan Tom Young
The Rev gan Fabia Martin
Queer Parivaar gan Shiva Raichandani
Looking for Barbara gan Helen Kilbride
Gwobr newydd sbon
“Rydym wrth ein boddau i allu cyflwyno i’n cynulleidfaoedd 15 ffilm fer wnaed ym Mhrydain sydd wedi’u cefnogi gan un o’r darlledwyr mwyaf cyfeillgar i bobl LHDTQ+, a phencampwr Gwobr Iris,” meddai Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Gwobr Iris.
“Rydym yn falch o gyhoeddi gwobr perfformiad newydd sbon eleni, wedi ei noddi gan Out and Proud, Gwobr Iris Perfformiad Prydeinig Gorau.
“Mae ein 17 rheithor eleni ar gyfer y wobr ryngwladol a gwobrau Prydeinig Gorau yn cynrychioli’r gorau o’n cymuned a LHDTC+, gyda rhai cyn-enillwyr yn eu plith, megis Dennis Shinners (Ardal X, 2017, a Barrio Boy, 2014), ac Adam Ali a Sam Arbor (enillwyr Gwobr Iris, 2021 gyda BABA), a Norena Shopland, awdur hanesion Cymreig LHDTC+ .
“Rydyn ni hefyd yn gyffrous i fod yn croesawu llu o wneuthurwyr ffilmiau o gartref a thramor, ynghyd â phobol sy’n dwlu ar ffilmiau o bob cwr o’r wlad.
“Dyma’r Iris “iawn” cyntaf ers 2019 ac allwn ni ddim aros am Hydref 11.”