A hithau yn Ddiwrnod Owain Glyndŵr ddydd Gwener (Medi 16), mae Cwmni Theatr Maldwyn yn edrych ymlaen at fynd ar daith gyda sioe am yr arwr cenedlaethol y mis nesaf.

Hanes Owain Glyndŵr yw testun y sioe gerdd, sy’n gynhyrchiad newydd o sioe Y Mab Darogan.

Cafodd ei sgrifennu yn wreiddiol yn 1981 pan gafodd Cwmni Theatr Maldwyn ei sefydlu ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth.

Er mwyn dathlu’r pen-blwydd y cwmni yn 40 oed, mae’r cwmni, a gafodd ei sefydlu gan Penri Roberts, Linda Gittins a’r diweddar Derek Williams, wedi penderfynu atgyfodi’r sioe.

“Rydyn ni’n falch iawn o gael teithio’r wlad efo Y Mab Darogan dros yr hydref i gynnig dehongliad ar hanes gwrthryfel Glyndŵr, tywysog olaf Cymru,” meddai Penri Roberts, a oedd yn actio Owain Glyndŵr ei hun yn y cynhyrchiad cyntaf yn 1981.

“Mae hwn yn gynhyrchiad newydd, rydyn ni wedi cwtogi mewn mannau ac ychwanegu mewn mannau eraill, ac mae Linda Gittins wedi creu trefniannau newydd arbennig iawn o rai o’r caneuon cyfarwydd ar gyfer cynhyrchiad eleni.”

Tocynnau’n mynd fel slecs

Mae’r tocynnau eisoes wedi bod yn gwerthu’n dda dros yr haf.

Mae holl docynnau’r noson gyntaf yn Theatr Hafren ddydd Sadwrn, Hydref 15, wedi eu gwerthu “ers tro”, fel y mae’r perfformiadau yn Theatr Derek Williams yn y Bala ar Hydref 30.

Oherwydd bod gwerthiant perfformiad nos yn y Galeri Caernarfon Sadwrn, Hydref 26, penderfynodd y cwmni drefnu sioe matinée yn y prynhawn ond mae’r rheiny i gyd bron wedi eu gwerthu.

Mae’r rhan fwyaf o docynnau Aberystwyth (Hydref 22) wedi eu gwerthu, er bod rhywfaint ar ôl yn y Stiwt, Rhosllannerchrugog nos Sadwrn, Tachwedd 5, ac yn Ffwrnes, Llanelli nos Sadwrn, Tachwedd 19, ar hyn o bryd.

“Mae yna gryn edrych ymlaen at gael mynd ar daith,” meddai Penri Roberts.

“Efo llai na mis i fynd, rydyn ni’n gwybod bod gynnon ni dipyn o waith i’w wneud i gael y sioe yn barod ar gyfer y perfformiad cyntaf yn Theatr Hafren ganol mis Hydref. Mi gawson ni’r ymarfer cynta’ efo’r band llawn ddydd Sul ac mae pethau’n dechrau dod at ei gilydd.“Ond os ydech chi’n awyddus i weld y sioe, prynwch gynted gallwch chi i osgoi cael eich siomi”.

Un Nos Ola Leuad hefyd yn gwerthu’n dda

Sioe arall sydd wedi ei hatgyfodi eleni yw Un Nos Ola Leuad gan gwmni Bara Caws, ac mae nifer o’r llefydd ar y daith honno hefyd eisoes wedi eu gwerthu i gyd.

Mae hi ar daith rhwng Hydref 17 hyd at Dachwedd 11.

Teithiodd y cwmni gyda’r addasiad llwyfan yma o nofel enwog Caradog Prichard gyntaf yn 2011.

Betsan Llwyd sy’n gyfrifol am y sgript, ac mae yn seiliedig ar waith gwreiddiol gan Maureen Rhys a John Ogwen.

Mae’r fersiwn diweddaraf yma wedi ei gynnwys ar gwricwlwm Lefel A Drama y Cyd-bwyllgor Addysg ar hyn o bryd.

Darn o waith ensemble fydd y ddrama, gyda’r cast yn cynnwys Owen Alun, Owen Arwyn, Celyn Cartwright, Siôn Emyr, Cedron Siôn a Manon Wilkinson.

Mae’r holl docynnau yn Theatr Derek Williams ar Hydref 26 i gyd wedi eu gwerthu, fel y mae perfformiad yn Theatr Twm o’r Nant Dinbych ar Hydref 27, a’r deuddydd o berfformiadau yn Neuadd Llanofer Caerdydd ar Dachwedd 3 a 4 ac yn Galeri, Caernarfon ar Dachwedd 8 a 9.

Mae ychydig o docynnau ar ôl yn Neuadd Dwyfor Pwllheli, Hydref 21 a 22.

Rhaid bod gan y Cymry awch am sioeau mawr o theatr yr hydref yma…